MR. ROBERT MORRIS JONES, BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Located at the base of the Blue Mountain, the area now known as Bangor was originally settled as a small farming community around 1760. In the early 1800s, however, the discovery of a fine-grained sedimentary rock called "slate" prompted a dramatic transformation that would eventually revolutionize the entire region.

In Bangor, this blossoming industry was led by a Welshman named Robert Morris Jones. A trained geologist who came to the area in the late 1840s, Jones established several of the area's largest mining operations, including the Old Bangor Slate Quarry, which opened in 1866, and the North Bangor Quarry, which opened in 1871. Widely considered to be the father of modern day Bangor, Jones was elected the borough's first chief burgess in 1874 and is even credited with naming the community after Bangor, Wales – a well-known slate mining town near his birthplace in the British Isles.

Find a Grave ~ Author Liz Reph.


MR. ROBERT MORRIS JONES, BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

DADORCHUDDIO COFGOLOFN Y DIWEDDAR ROBERT MORRIS JONES YN BANGOR, PA.

Ar y 24ain o Medi dadorchuddiwyd y golofn y bu cymaint o son am dani; ac o'r holl achosion a gymerodd le yn hanes tref Bangor, dyma'r un ag y cafodd ei goroni a'r mwyaf o lwyddiant. Aed trwy y seremoni a'r gweithrediadau yn ngwydd miloedd o bersonau, ac am y golofn dywedwn mai hi yw yr harddaf o fewn y gymydogaeth, ac wedi profi medrusrwydd y brawd Thomas Owens fel crefftwr penigamp. Mae'r cerflun o'r ymadawedig yn chwe troedfedd o hyd, ac yn gorphwys ar chwe troedfedd o sylfaen, ar wyneb pa un y naddwyd a ganlyn -

ROBERT MORRIS JONES
1825—1886.
Founder and First Burgess of Bangor, Co. K: 150 N. Y. Inf.

Am oddeutu un o'r gloch ffurfiwyd gorymdaith yn cael ei blaenori gan ddwy o seindyrf, ac wedi teithio drwy'r heolydd cyraeddwyd y man lle safai y golofn. Cyflwynwyd Wm. R. Hughes (Gwilym o Fon), New York, i'r gynulleidfa, a gafaelodd yntau o ddifrif ac yn ddeheuig yn yr awenau arweinyddol a gwnaeth ei waith yn anrhydeddus.

Cafwyd can gan y cor yn rhifo dros gant o leisiau, dan arweiniad John L. Roberts (Eos Glan Ffrydlas), "My Country 'Tis- of Thee." Dylynwyd hyn drwy weddi gan y Parch. Ivor Thomas. Yna cafwyd anerchiad gan y Seneddwr Penrose, a dywedodd yn dda iawn am danom fel cenedl. Can gan blant yr ysgolion dyddiol, dan arweiniad Proff. Grover, "The Star Spangled Banner," a thra yr oedd y plant yn canu tynwyd y llen oddiar y golofn gan bedair o enethod ieuainc, a pan gafwyd golwg ar y cerflun, tynodd pob un ei het mewn parch, a churwyd dwylaw. Datganwyd yr "Haf." G. Gwent, gan y cor, nes gwefreiddio y gynulleidfa. Diweddwyd drwy anerchiadau byrion, gan John W. Ford, Philadelphia; y Barnwr Stewart, a'r Maer, D. W. Nevin, Easton.

I'r brawd John R. Pritchard, cadeirydd y pwyllgor, mae'r oll o'r clod yn ddyledus am y llwyddiant yn yr achos hwn. Ymdaflodd gorff ac enaid i'r gwaith, a choronwyd yr oll o'i ymdrechion. Casglodd y swm $1,000 i dalu am y gofgolofn, yn nghyd a thalu costau yr holl dreuliau.

Yn yr hwyr, cafwyd bancwet yn y Slate Belt Park, a dywedir fod yno tua wyth gant yn gwledda gyda'u gilydd, ac yn cael eu dyddanu gan y cor meibion dan arweiniad Thos. R. Williams.
Gan Gwilym Glan Conwy.

Y Drych ~ Hydref 1af, 1914.