MISS. ELEANOR. JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn nhŷ Mrs. Clark, Utica, Hydref 29ain, 1847, Miss Eleanor Jones, yn 60 mlwydd oed, brodor o ger Dolgellau, swydd Feirionydd.

Yr oedd rhyw bethau lled ryfedd yn y ddynes hon. Yr oedd wedi bod yn ddiwyd a llafurus ac wedi gweithio yn lled galed (mae yn debyg) trwy ei hoes.

Ni chaniatai iddi ei hun (dywedir) ond 2s. yr wythnos at fyw, a'i gwisg oell led wael yn gyffredin. Eto gadawodd ar ei hol dros $2000. O hyn, rhoddir $200 i'w thad yn Nghymru, os yw yn fyw; neu, os nad yw, yna i un o'i brodyr, os gall ef brofi ei fod wedi cymeryd gofal am ei dad fel y dylai. Os na all, yna bydd y swm a enwyd i gael ei ranu rhwng ei brodyr a'i chwiorydd eraill yn Nghymru.

Gadawodd $100 i un o'r cynulleidfaoedd Cymreig yn Utica, a'r gweddill i ofal ynddiriedolwyr, i gael en rhanu yn ôl eu dewisiad hwy rhwng gwahanol gymdeithasau daionus yn Utica.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1847.