MR. EVAN JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhoddir isod Fyr Gofiant am Mr Evan Jones, ger Capel y Nant, Steuben, swydd Oneida Caerefrog Newydd, yr hwn a fu farw Mehefin 4ydd, 1847 yn 83 mlwydd oed.Yr oedd gwrthrych y Cofiant hwn yn un o'r dynion mwyaf ffyddlon gydag achos crefydd Iesu Grist a fu yn yr oes hon yn ôl y gallu a'r dawn a roddwyd iddo at hyny. Bu yn proffesu crefydd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn agos i dair a deugain o flynyddau bob amser yn fywiog iawn gyda'r gwaith am gadw y peiriant mawr i gerdded yn y blaen - yn tristau yn fawr iawn os gwelsai ei frodyr yn farwaidd a chysglyd gydag achos crefydd ac yn wastad byddai am gynorthwyo y gwan yn y blaen. Byddai yn fynych iawn yn cynghori y rhai gweiniaid yn Seion ac yn rhybuddio y rhai afreolus.
Ymddyddan am bethau y nefoedd oedd ei bleser penaf bob amser yn y byd hwn. Pan gyfarfydda a rhyw gyfaill dyeithr, at bethau crefydd yr âi yn union ac i son am yr hen bererinion yn yr hen amserau gynt pan oedd yn ei ddyddiau ieuainc. Bu yn flaenor yn yr eglwys 30 o flynyddau a ffyddlon iawn y bu yn y sefyllfa hono hefyd Dichon i rywun ofyn yn mha beth y bu yn ffyddlon. Mi a atebaf bu yn ffyddlon gyda holl ranau y gwaith mor belled ag yr oedd ef yn alluog bu yn was ffyddlon yn tŷ isod hwn, bu ffyddlon ar ychydig yr ydym yn hyderu ei fod erbyn heddyw wedi cael ei osod ar lawer a'i alw i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Colled fawr i'r ddiadell fechan yr oedd ynddi yma ar y ddaear ond enill mawr iddo ef oedd cael myned o'r eglwys filwriaethus hon i'r eglwys orfoleddus yn y nef, allan o gyraedd pob gelyn am dragwyddoldeb.
Yr oedd yn un hynod o gadarn yn mhynciau y grefydd gristionogol. Safai yn gadarn bynciau iachusol y bibl bob amser ac nid oedd a wnelai ef a opiniynau dynion mewn un modd; ni chymerai ei arwain ar gyfeiliorn gan athrawiaethau dynol er nad oedd yn ddyn dadlengar cas un amser ond os deuai cyfeiliornad i'w gyfarfod yr oedd ganddo arfau parod i'w wrthwynebu. Yr oedd yr hen frawd yn un hynod iawn mewn gweddi, â'i i'r nef ar ei union. O mor daer y byddai o flaen ei Dad nesol yn enw y Meichia mawr am drugaredd iddo ei hun ac eraill gwaeddodd lawer, "Llwydda dy waith," ac am i'r Arglwydd achub pechaduriaid i fywyd tragwyddol. Yr oedd yn un hynod o selog gyda'r ysgol Sabbothol. Byddai wrth ei fodd wrth holi y plant bach ac yn son am Iesu Grist a'r Iechydwriaeth fawr sydd ynddo i bechaduriaid llodion ac am y ffordd a drefnodd Duw o'i hunan gynhyrfiol ras i gymodi gelyn euog ag ef ei hun ei gyngor bob amser i'r plant yn diwedd fyddai, Deliwch ati, fy mhlant bach i wrth ddysgu y pethau a ddysgoch chwi yn ieuainc a fydd yn gysur i chwi ar ôl myned yn hen ac wrth wynebu tragwyddoldeb.
Yr oedd yr hen frawd ymadawedig hwn yn un hynod iawn o fywiog yn y gymdeithas neillduol. Byddai ganddo ef ryw beth i'w adrodd bob amser yn fyr fel ei brofiad ei hun neu gyngor i'r rhai isel radd. Yr oedd fel cristion yn un dychlynaidd a hardd iawn ei rodiad yn y byd.
Yr oedd yr hen frawd hwn yn enedigol o blwyf Llangwnad Lleyn sir Gaernarfon yn agos i gapel Penygraig yn y plwyf hwnw. Bu yn byw y rhan fwyaf o'r amser a dreuliodd yn Nghymru yn y fan hono ac yn y flwyddyn 1827 ymfudodd ef a'i deulu i'r America a bu fyw yma ugain mlynedd lled gyfan. Yr achos o farwolaeth yr hen bererin ffyddlon hen oedd, yr oedd wedi cael archoll tumewnol breach ers llawer blwyddyn a byddai ar amserau mewn poenau mawrion o herwydd hyny. Ni fu yn glaf ond o ryw bryd yn y prydnawn dydd Mercher yr ail o Fehefin hyd dri o'r gloch led gymwys yn y boreu Gwener y 4ydd a chlaf iawn oedd yr holl o'r amser hyny. Methwyd a chael dim esmwythder iddo er holl ddyfais dau o feddygon medrus. Yr oedd mewn poenau mawr iawn yn ei gorph yn wastad dywedodd wrth un o'r cyfeillion ac oedd yn gweini ymgeledd iddo "Llawer pwl caled iawn a gefais i erined gan hwn ond dyma y caletaf eto gan chwanegu a dyweyd pechod a ddaeth a hyn i mi; ie, ie, ond mae un wedi dyoddef mwy na hyn dros bechaduriaid, (ac aml iawn y byddai yn achwyn oherwydd pechod.) Ychydig ddyddiau cyn ei gymeryd yn glaf yr oedd yn ymddyddan ag un o'r brodyr crefyddol a berthyna i'r gangen eglwys lle yr oedd gan ei gyngori i ddal ati ac i fod yn flyddlon ac yn effro gyda'r achos. "Ni fyddaf fi (ebe ef) ddim yma ond ychydig iawn o amser eto mi fyddaf fi yn nhragwyddoldeb yn fuan." Wel, ebe y brawd. Mae pob peth yn barod os felly a fydd, mae yn debyg. "Wn i ddim, wn i ddim ebe yntau, pa sut y bydd yn y diwedd; os caf fy achub o drugaredd yn unig y caf;" heblaw llawer o bethau eraill a ddywedodd efe, rhy faith i'w hadrodd yn bresenol gan fod yr ysgrif yn myned yn rhy faith. Ychydig iawn ddywedodd yn ei salwch mewn perthynas i grefydd a'r cyffelyb oblegid ei boen corphorol.
Aeth rhai o'r brodyr a'r chwioryıld crefyddol i ymweled ag ef ddydd Iau Mehefin 3ydd, ac ar ôl myned at y gwely dywedodd un o'r brodyr, "Wel dyma lle yr ydych chwi, Evan Jones." "Ie ie, dyma lle yr ydwyf fi ebe yntau, daliwch ati yn ffyddlon hyd y diwedd" ac adroddodd yr adnod hono. "Gwir yw y gair ac yn haeddu pob derbyniad ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid," ac ni adroddodd ddim yn rhagor o'r adnod, adroddodd hefyd y penill hwnw,
Ar Galfari yng ngwres y dydd
Y caed y gwysti mawr yu rhydd a.y.
yn fwyaf neillduol y rhan olaf o r penill,
Ac yno'n talu anfeidrol iawn,
Trwy glirio llyfrau'r nef yn llawn,
Heb ofyn dim i mi. -
gan ddyblu drachefn, Heb ofyn dim i mi. Parhaodd i wanychu yn raddol ar hyd y nos a phan oedd y cloc yn taro 3 o'r gloch boreu y 4ydd o Fehefin ehedodd y wreichionen anfarwol i fyd yr ysbrydoedd ac at Dduw Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y rhai a berffeithiwyd.
Gan fod yr achos yn galw am gladdledigaeth buan oblegid poethder yr hin a llygredigaeth ei weddillion marwol yntau penderfynwyd ei gladdu dra noeth a daeth tyrfa lled luosog ynghyd i weini y gymwynas olaf iddo a hebryngwyd ei ran farwol i'r gladdfa oedd gerllaw ac ar yr achlysur darllenodd a gweddiodd y Parch Rees Davies, gweinidog y Trefnyddion Wesleyaidd yn Steuben a phregethodd ei hen gyfaill hoff ac anwyl y Parch William G. Pierce oddiar Luc 23:42.
Gallaswn ychwanego llawer iawn am yr hen dad ffyddlon hwn a fu mor ddiwyd yn magu ac yn meithrin llawer fel fy hunan yn yr Eglwys am faith flynyddau megis ei hen ddywediadau a'i ddull yn crefydda a.y. ac y mae'n drwg iawn genyf fy mod wedi bod mor drwsgwl ac mor wael yn ceisio dywedyd ychydig am un ag sydd wedi bod mor ddiwyd a ffyddlon yn ngwinllan ei Arglwydd yn ei ddydd a'i dymor yn y byd a'r Arglwydd a'm cynorthwyo i ddylyn ei esiainplau yn yr hyn sydd dda ac hefyd ei ofal mawr am y plant a ddeuant i'r Eglwys. Gallesid dweyd llawer ar hyn hefyd, heblaw llawer o bethau eraill. Nid yw yr holl bethau a ddywedwyd uchod ond ychydig o lawer a allesid ddywedyd. Mi a ddywedaf wrth derfynu, Syrthied dau parth llawn o ysbryd yr hen Elias hwn ar ryw Eliseus eto yn y Nant. Rhag i mi eich blino â meithder gormodol mi a derfynaf ar hyn. Ydwyf yr eiddoch yn ddiffuant.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1847.
MR. EVAN JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Evan Jones wedi bod yn byw yn Cabli ym mhlwyf Bryncroes ac yna yn Penygraig yn agos i Gapel Penygraig ym mhlwyf Llangwnadl.Yr oedd yn aelod gweithgar gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yng Nghapel Penygraig, yn arwain yr ysgol Sul ac wedi bod yn ddiacon am ugain mlynedd.
Yn 1827 ymfudodd Evan Jones a Jane ei wraig i'r America.
Sefydlodd ym mhlwyf Steuben.
Bu'n weithgar gyda achos y Trefnyddion Calfinaidd yn America hefyd. Yr oedd yn un o'r rhai wnaeth sefydlu Capel Nant yn Steuben yn 1828, ac fe fu yn ddiacon yn yr Eglwys am tua ugain mlynedd.
Bu Evan Jones farw ar 4ydd Mehefin 1847 ac mae ei weddillion wedi eu claddu ym mynwent Capel Nant.