MR. ROBERT W. JONES. SLATEFORD, PENNSYLVANIA.

Awst 19eg, 1886, yn Slateford, Pennsylvania, Robert W. Jones, yn 69 mlwydd a 7 diwrnod oed, ar ôl cystudd maith a thrwm, yr hwn a ddyoddefodd yn bur dawel. Yr oedd bob amser yn ei fywyd yn hynod o ddystaw, ac anaml ei eiriau, ond meddylgar iawn.

Brydnawn Sul, yr 22ain, cymerwyd ei weddillion marwol i'w claddu i Columbia, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John Williams, Bangor. Cafwyd pregeth darawiadol ar Amos 4:12.

Brodor ydoedd yr ymadawedig o Llanllyfnl, Swydd Carnarvon, Gogledd Cymru; ond symudodd pan yn lled ieuanc i ardal Bethesda, lle yr ymbriododd.

Daeth ef a'i briod i'r wlad hon yn 1851, a sefydlasant yn Pennsylvania. Ganwyd iddynt saith o blant, y rhal ydynt oll wedi cael byw i gydymdeimlo a chyd alaru a'u mam yn y brofedigaeth fawr o golli tad a phriod gofalus a thyner. Y nefoedd fyddo yn llon'd ei haddewidion i'r weddw a'r amddifaid bob amser. Mae y teulu yn diolch i bawb a roisant eu presenoldeb yn yr angladd o Bangor.
J. T. JONES.

Y Drych ~ Medi 9fed 1886.