MR. WILLIAM W. JONES. LAKE EMILY, WISCONSIN.

Ebrill 25ain, 1886, yn Lake Emily, Wisconsin, yn 72 mlwydd oed, William W. Jones, mab Mary Jones, Tyn'ymynydd, plwyf Llangian, Lleyn, Sir Gaernarfon.

Ganwyd iddynt naw o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw. Yr oedd gwrthrych ein hysgrif yn wael er's blynyddau, ac yn dyoddef oddiwrth y piles. Bu yn nychu agos trwy y gauaf diweddaf; ond ni bu yn wael iawn hyd o fewn rhyw wythnos cyn ei farwolaeth. Dyoddefodd gystudd trwm ond byr, a hyny yn bur dawel a dirwgnach. Yr oedd wedi cael dygiad i fyny da, ac yr oedd yntau wedi cymeryd a dysgu i fod yn fachgen sobr a gweithgar, fel y gellir dweyd ei fod yn Nazaread o'r groth. Ni chafodd y fraint o fod yn aelod o eglwys Crlst pan yn ieuanc, fel llawer bachgen; ond yr oedd ganddo bob parch i grefydd, a byddai yn ffyddlon ddylyn y cyfarfodydd bob amser.

Yn 1849, os nad yn camgymeryd, daeth ef a'i frawd Griffith i'r America, a sefydlasant yn Wisconsin, a dyma y lle bu ef hyd ei farwolaeth. Llwyddodd trwy ei ofal a'i ddiwydrwydd i gasglu tipyn o dda y byd. Yr oedd yn hynod am ei onestrwydd, ei eirwiredd a'i ffyddlondeb i'w addewidion. Ymunodd â chrefydd er's amser mawr bellach, a gwnaeth ei ran gyda'r achos da; ie, gwnaeth fwy na llawer fu gyda chrefydd ar hyd eu hoes, a ni a hyderwn y gall ei Arglwydd ddweyd wrtho, "Da was, da a ffyddlon."

Daeth tyrfa luosog yn nghyd ar y 26ain i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. David B. Jones.

Y Drych ~ Mai 27ain 1886.