MR. LEWIS LEWIS. WILLIAMSBURG, IOWA.
Mehefin 20fed, 1886, yn ei gartref yn Williamsburg, Iowa, Lewis Lewis, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd Mr, Lewis yn enedigol o Llanfihangel, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru.Daeth i'r America yn 1810. Ymbrlododd yn mhen tair blynedd wedi hyny. Bu yn byw yn Swydd Oneida, New York, hyd 1862, pryd y symudodd ef a'i deulu i Emmett, ger Watertown, Wisconsin, ac yn 1876 symudasant i Williamsburg. Trwy ofal a diwydrwydd llwyddodd i gasglu cyfran helaeth o dda y byd hwn.
Bendithiodd yr Argiwydd ef yn yr ystyr yna, a hyny heb roddi culni yn ei enaid, Daeth yn grefyddol pan yn ddyn ieuanc, a daliodd ati yn ffyddlawn hyd y diwedd. Nodweddid ef fel gŵr o gymeriad da, ac o dduwioldeb diamheuol. Ei brif rinwedd ar hyd ei oes faith gyda chrefydd oedd ffyddlondeb i ddylyn moddion gras, gwneyd ei ran yn y moddion, a chyfranu i gynal a lledaenu yr achos. Fel Cristion bu yn ddifwlch a dibrofedigaeth i'r achos yn mhob man.
Dechreuodd ddangos dadfeiliad iechyd yr hydref diweddaf; er hyny aeth ymaith yn gynt nag y dysgwylasld. Colled fawr fydd am dano i eglwys y T. C. yn y lle hwn, o'r hon yr oedd yn aelod.
Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn mynwent y lle hwn ar yr 22ain gan dyrfa luosog, pan y gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. W. R. Stewart (P.) Bydded yr Arglwydd yn nodded i'w briod sydd hithau mewn henaint, ac i'w fab a'i wyrion.
THOS. A. HUGHES.