MISS. MARGARET MORGANS. EMPORIA, KANSAS.

Gorphenaf 26ain, 1886, yn 29 mlwydd oed, yn Emporia, Kansas, Miss Margaret Morgans, merch y diweddar David Morgans Ysw, High St., Bala, Gogledd Cymru.

Ar yr 8fed o Fawrth, 1886, y glaniodd yn New York, ac y cyfeiriodd ei gwyneb am Kansas. Cymerwyd hi yn glaf ar y 19eg, ac ymadawodd a'r fuchedd bresenol ar y 26ain. Cafodd gystudd byr, ond hynod o ddwys a phoenus. Cafodd, er yn mysg estroniaid, bob cymorth a allasai cariad a chydymdeimlad ei roddi iddi; ond y cyfan yn ofer. Hunodd yn yr Iesu am 4 o'r gloch boreu Llun.

Cafodd gladdedigaeth o'r fath fwyaf parchus. Yn y tŷ gwasanaethwyd gan y Parch. John Jones (T. C.), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Dr. Hendy Prif Athraw yr Emporia College. Yna awd i'r Lower Dry Greek Cemetery, lle y rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn dawel hyd yr adgyfodiad yn y dydd diweddaf.

Yn y cemetery gwasanaethwyd gan y Parch. John Jones. Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu sydd i dderbyn y fath newydd trwm, yn enwedig ei hanwyl fam. Yr Arglwydd a'u cysuro, ac a roddo nerth iddynt i weled ac i gredu "Fod ei drugaredd ar ei holl weithredoedd tuag atynt."
F. G. J.

Y Drych ~ Awst 19eg 1886.