MRS. ELLEN MORRIS, LAKE EMILY, DODGE COUNTY, WISCONSIN.

Ebrill 5ed, 1886, yn ardal Lake Emily, Sir Dodge, Wisconsin, bu farw Mrs. Elen Morris. Pe cawsai fyw hyd Mehefin 15fed, buasai yn 80 mlwydd oed.

Ganwyd Elen Morris yn Muryforwyn, Bwlchderwin, Clynog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni ydoedd William ac Elen Williams. Pan oedd hi yn 18 oed symudodd i Pentir, Llanddeiniolen, a phan yn 19 oed ymunodd a chrefydd, a phriododd â Mr. Henry Morris yn lled fuan.

Symudodd y teulu i'r wlad hon yn 1845, a sefydlasant yn Blaen-y-cae, Wisconsin. Symudasant oddiyno i Lake Emily.

Ganwyd iddynt wyth o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw. Bu farw ei phriod yn 1859; arosodd hithau yn weddw hyd ei bedd.

Yr oedd Elen Morris yn un o hen sefydlwyr cyntaf yr ardaloedd hyn. Teimlai y lluaws ar ddydd ei hangladd fod hen gysylltiadau agos am flynyddau wedi bod rhyngddi a phob teulu yn yr ardal yn mron - wedi bod yn gweini iddynt ar adegau cyfyng aml dro. Yr oedd y dyrfa fawr oedd yn bresenol yn teimlo fod angladd Elen Morris dipyn yn bwysicach nag angladd cyffredin un o wragedd da yr ardal.

Cafodd ein chwaer y fraint o ddilyn crefydd hyd ei bedd. Nodweddid ei gyrfa grefyddol a graddau helaeth o wresogrwydd crefyddol. Ymddengys iddi ymuno a chrefydd mewn teimlad gwresog, a chadwodd raddau o'r gwres hwnw yn ei phroflad hyd angeu. Yr oedd llawer o deimlad yn perthyn i'w chrefydd. Mynych iawn y gwelais ddagrau yn bwrlymu o'i llygaid. O'm rhan fy hun nid oes genyf fymryn o gydymdeimlad a chrefyddwyr heb deimlad crefyddol. Pa fodd y cydymdeimlwn a dyn heb deimlad? Un o'r proflon sicraf o fywyd ydyw teimlad : os nad ydyw yn brawf diamheuol o wir grefydd yn mhob amgylchiad, fel yr had ar y creigleoedd, y mae amddifadrwydd o hono yn brawf sicr o ddyn heb grefydd. Gwywodd yr had ar y graig, mae yn wir, ond y mae llawer o had na ddaeth erioed o'r pridd i gael amser i wywo.

Byr fu cystudd ein chwaer - enynfa ar yr ysgyfaint. Gofynwyd iddi a fuasai yn caru cael byw eto am dymor. Ei hateb oedd, "Na, mae'n well genyf gael myned."

Pregethodd yr ysgrifenydd bregeth angladdol iddi, a'r Parch. D. R. Jones a'r ysgrifenydd yn gweini yn yr angladd.
JNO. R. DANIEL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1886.