MR. ROBERT W. MORRIS, DELTA, PENNSYLVANIA.

Dydd Sul, Ebrill 25ain, 1886, bu farw Mr. R. W. Morris, yn 39 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth. Ganwyd ef yn Dinorwig, Gogledd Cymru, Ionawr 27ain, 1847.

Ymfudodd i'r wlad hon yn Gorphenaf, 1865. Ar ôl treulio ychydig amser yn ardal Slatington, daeth i West Bangor, Pennsylvania; ymunodd mewn priodas â Miss Ann Jane, unig ferch i'r diweddar H. O. a Margaret Roberts, o'r un lle.

Ganwyd iddynt chwech o blant, yr oll o'r rhai sydd yn fyw, a'i briod a'i nain. Yr oedd hefyd yn frawd i Mr. J. W. Morris, Slatington, yr hwn sydd yn bregethwr cymeradwy gyda yr un enwad ag y perthynai ei frawd iddo. Yr oedd ein brawd ymadawedig yn gymeriad rhagorol; yr oedd yn fardd gwych, yn llenor da, ac yn Gristion a ffrwythau yr Ysbryd yn amlwg arno. Fel llenor, yr oedd o chwaeth bur. Nid oedd fel efrydydd ond cymhariaethol ieuanc, eto drwy lawer o lafur a diwydrwydd, cyfoethogodd ei feddwl a llawer o wybodaeth, yn enwedig a gwybodaeth Feiblaidd, a fyddai yn gaffaeliad gwerthfawr i lawer. Cymerai boen, yn anad neb a welsom, i efrydu pynciau mawrion crefydd. Dywed un awdwr fod genius yn gynwysedig mewn cymeryd poen i astudio unrhyw gangen o wybodaeth Diamheol fod llawer o wirionedd yn hyn, ac nid oedd pall ar amynedd ein brawd, heblaw ei fod yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion; a'r canlyniad oedd, iddo gael golwg mwy cryno a chyflawn o lawer na'r cyffredin ar wirioneddau ac athrawiaethau mawrion Cristionogaeth, yn eu gwahanol gysylltiadau a'u perhynasau a'u gilydd; ac felly yr oedd yn hynod o addfed ei farn ar bob pwnc Ysgrythyrol.

Am rinweddau a rhagoriaethau ein brawd fel Cristion, y maent yn ddigon hysbys i bawb a'i hadwaenai. Yr oedd wedi gwneyd byw yn grefyddol, ie, byw yn dduwiol, yn brif amcan ei fywyd. Yr oedd wedi gwneyd achos Mab Duw yn achos iddo ei hun, a theimlai ddyddordeb neillduol yn yr achos da yn ei holl gysylltiadau. Yr oedd gwaith y Sabboth yn cael cymaint o le yn ei feddwl ag y mae yn gael yn meddwl llawer pregethwr. Credai nid yn unig mewn bod yn ffyddlon gyda phob moddion o ras, ond hefyd mewn parotoi ar gyfer pob moddion o ras Dysgwyliai am newydddeb mewn profiad yn y gyfeillach yn gystal ag mewn pregeth; a melus, yn ddiau, oedd ei brofiad bob amser yn y gyfeillach, o herwydd yr oedd nid yn unig yn genuine, ond hefyd yn fresh.

Llafuriai yn galed ar gyfer ei ddosbarth yn yr ysgol Sul, ac amcanai gymwyso y gwirioneddau fyddai dan sylw at feddyliau a chalonau ei ddysgyblion. Fel pen teulu, llanwai y swydd o offeiriad a phrophwyd. Iddo ef, yr awr weddi oedd yr awr hapusaf o oriau y dydd, a threuliai ran neillduol o bob diwrnod i hyfforddi ei blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac un o ddymuniadau ei wely angeu oedd, ar i'w briod ddysgu y plant yn egwyddorion crefydd. Yr oedd ei gymeriad yn gyfuniad bapus o bob rhinwedd a allesid ddysgwyl mewn Cristion.

Yma yr oedd gwahanol rasusau yr efengyl mewn cymesuredd a chyfartaledd rhyfeddol, yr hyn a'i gwnai yn gymeriad cryf a chrwn, heb yr un os annymunol yn perthyu iddo. Crefydd i lywodraethu, ac nid crefydd i'w llywodraethu, oedd crefydd Mab Duw iddo ef. Ac i'r graddau y llywodraethir ni gan egwyddorion y grefydd a broffeswn, i'r un graddau y deuwn i weled ei hardderchogrwydd. "Dyma lle yr wyf fi yn gweled crefydd yn ardderchog yn ei hegwyddorion (meddai), egwyddorion seiliedig ar natur yr Anfeidrol ei hun." Yr oedd ei babell bridd yn dadfeilio yn gyflym yn awr, ac arwyddion amlwg fod awr ei ymddatodiad ef yn agosau, eto dywedodd hyn gyda theimlad angerddol. Yr oedd bob amser yn hoff iawn o fyned ar ôl egwyddorion crefydd.

Ac fel y bu efe byw, felly y bu efe farw. Bu farw yn mreichiau egwyddorion mawrion y grefydd a broffesai. Llawer gweddi daer a offrymodd yn ein clywedigaeth. Y mae ystafell ei wely angeu wedi ei chysegru gan ei weddiau. "Dos i fewn, dos i fewn," meddai wrth ei frawd, yr hwn a ddaeth o Slatington i'w weled, "y mae genyf lon'd enaid i'w ddyweyd wrthyt." Ac er cymaint ddywedodd, o'r pryd hwnw hyd ei ymadawiad, teimlent nad oedd yr oll a ddywedodd ond megys cynifer o donau ar y mor profiad oedd yn ei enaid. Fel yr oedd ei yrfa ddaearol yn tynu tua'r terfyn, ymddangosai fel yr haul yn machlud ar ddiwrnod teg yn nghanol yr haf, heb gymaint a chledr llaw gwr o gwmwl i'w weled yn unman. Felly machludodd haul ein brawd yma, ond machludodd i godi mewn gwlad byth i fachlud mwy. Safai yn uchel nid yn unig yn marn a theimlad yr eglwys y perthynai iddi, ond hefyd yn marn a theimlad pawb a'i hadwaenai.

Yr oedd y gladddedigaeth dywysogaidd a gafodd yn brawf amlwg o hyn. Ymddengys fod yr angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y lle. Ar ôl canu emyn yn y ty cychwynwyd am y capel, ond yr oedd capel y T. C. yn orlawn yn mhell cyn i'r elorgerbyd gyrhaedd yno. Felly aethpwyd i Slateville, i gapel y Presbyteriaid. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J. Wynne Jones, J. Cadwalader, a J. E. Harries, yn Gymraeg, a chan y Parchn. D. M. Davenport, A. Wells, a T. M Crawford, yn Saesoneg.

Ac yn mynwent Slateville y rhoddwyd yr hyn oedd farwol o'r bardd a'r llenor a'r Cristion i orphwys, ac yma yr ydym yn ei adael i gasglu nerth a phrydferthwch erbyn ymddangosiad ei Arglwydd.
J. E. HARRIES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1887.