MRS. MARY OWEN. POLAND, NEW YORK.
Gorphenaf 24ain, 1886, yn 82 mlwydd oed, yn nhy ei merch ieuengaf, Mrs. Brayton yn Poland, New York — gyda'r hwn y cartrefai er 1870 - Mrs. A. W. Owen, gweddw y diweddar William Owen, a chladdwyd hi y dydd Mawrtb canlynol yn Marcy, pryd y gweinyddwyd gan foneddiges o Poland.Ymfudodd Mrs. Owen gyda'i phriod a theulu lluosog i America o Lanegryn yn 1853, gan ymgartrefu yn nghylchoedd Utica hyd y flwyddyn 1862, pryd y symudasant i ardal Poland. Bu ei gwr farw Ionawr 21ain, 1879, yn 84 mlwydd oed.
Y mae yn fyw i alaru ar ei hol chwech o blant, sef Griffith Owen, Utica; Richard Owen, Marcy; Hugh Owen, Frankfort; Ann Thomas a Mary James, Chicago, a Maggie Brayton, Poland.