MR. HUGH OWENS. FAIR HAVEN, VERMONT.

Chwefror 18fed, 1886, yn ei gartref yn Fair Haven, Vermont., trwy doriad gwaedlestr yn yr ysgyfaint, yn 69 mlwydd oed, Hugh Owens, Carnarvon Street, ac aelod o gwmni y Griffith Owens and Co., Scotch Hill Slate Quay.

Yr oedd ei iechyd yn graddoi wanychu er's tair blynedd neu fwy, ac arwyddion amlwg i'w gweled arno ei fod yn ngafael yr hen elyn gweniaethus y darfodedigaeth. Er fod pawb o'i gydnabod yn credu nad oedd y diwedd yn mhell, eto ni ddychmygodd neb ei fod wrth y drws. Ni fu ei gystudd yn drwm, nac yn boenus iawn o gwbl: ond y mae yn debyg iddo ddangos yn fwy amlwg yn ei gystudd maith ei fod yn wir Gristion nag y gwnaeth yu ei fywyd, drwy ei oddefgarwch a'i amynedd.

Pan y teimlai ei briod hoff dipyn o awydd cwyno iddo yn ei wendid a'i nychdod, dywedai yntau bob amser, "Raid i mi ddim cwyno dim. Mae fy Nhad Nefol yn dda lawn i mi - yn rhoddi cystudd ysgafn i mi, a fy nghynal hefyd yn fy nghystudd."

Ganwyd ef yn Hafod-gynfor, Llanberis, Gogledd Cymru. Ymbriododd yn y flwyddyn 1838. Yn 1863 ymfudodd ef a'i deulu i America, gan sefydiu yn yr ardal uchod.

Bu yn ymdrechgar iawn gyda'i amgylchiadau, a llwyddodd i gasglu digon o gyfoeth erbyn y "dydd drwg." Bu yn aelod ffyddlon yn nghyfundeb y Methodistiaid am tua 45 mlynedd, a theimlir colled fawr ar ei ôl mewn llawer cylch.

Gadawodd briod oedranus a phump o blant i alaru amdano, sef Mrs. Williams a Mrs. William R Jones, Middle Granville; Mrs. Henry Hughes, Gerlan, Bethesda; Mrs. Evan W. Jones a Mr. Humphrey Owenn, Fair Haven.

Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent Cedar Grove. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan J. M. H.

Y Drych ~ Mawrth 25ain 1886.


MR. HUGH OWENS. FAIR HAVEN, VERMONT.

Chwefror 18fed, 1886, yn ei gartref, yn Fair Haven, Vermont, yn 69 mlwydd oed, bu farw Hugh Owens, Carnarvon Street, ac aelod o gwmni y Griffith Owens and Co., Scotch Hill. Slate Company.

Ganwyd ef yn yr Hafod Gynfor, Llanberis, Gogledd Cymru. Enw ei rieni oeddynt Owen a Dorothy Rowlands. Ymbriododd yn y flwyddyn 1838. Ymunodd ef a'i briod a chrefydd yr un noswaith, yn nghapel Rehoboth, Llanberis, yn y flwyddyn 1841.

Ymfudodd ef a'i deulu i America yn y flwyddyn 1853, ac ymsefydlodd yn ardal Fair Haven, ac yn y gymydogaeth hon y treuliodd holl flynyddau ei fywyd yn y wlad hon, oddigerth pedwar mis.

Bu yn nychu o dan y darfodedigaeth am tua thair blynedd. Er na fu ei gystudd yu drwm, nac yn boenus iawn, eto yr oedd yn amlwg nad oedd y diwedd yn mhell; ond daeth yn gynt nag y dysgwyliodd neb o honom, trwy doriad gwaed-lestr yn yr ysgyfaint.

Fel cymydog a chydweithiwr, yr oedd yn siriol a chymwynasgar; byddai pawb yn hoff o'i gymdeithas. Yr oedd yn hynod ar gyfrif ei syniadau a'i ddywediadau gwreiddiol ei hun, y rhai a gofir yn hir gan bawb a'i hadwaenai. Fel crefyddwr, yr oedd yn hynod am ei ffyddlondeb yn dilyn pob moddion; yn ei gyfraniadau yn ddifwlch, ac yn ewyllysgar i wneyd pob peth a allai er hyrwyddiant achos y Gwaredwr. Teimlir colled fawr ar ei ôl mewn llawer cylch.

Gadawodd briod oedranus a phump o blant i alaru ar ei ôl; Mrs. William Willlams a Mrs. Richard Jones, Middle Granville; Mrs. Henry Hughes, Gerlan, ger Bethesda, Gogledd Cymru; Mrs. Evan Jones ac Humphrey Owens, Fair Haven.

Claddwyd ei weddillion yn mynwent Cedar Grove, y dydd Sadwrn canlynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. M. Hughes. J. R. Roberts.
MR. JOHN WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1887.