MRS. JANE OWENS. FAIR HAVEN, VERMONT.

Rhagfyr 5ed, 1886, Mrs, Jane Owens, gweddw y diweddar Hugh owens, Fair Haven, Vermont, yn 73 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon o Llanberis, Gogledd Cymru, tua 34 mlynedd yn ôl.

Yr oedd yn cwyno er Chwefror diweddaf; ond ni chyfyngwyd hi i'w gwely hyd ryw fis cyn ei marwolaeth.

Yr oedd yn aelod gyda y T. C. Gadawodd ar ei hol pedair merch, sef Mrs Kate Jones Fair Haven, Mrs. Harriet Jones a Mrs. Margaret Williams, Middle Granville, a Mrs. Judith Hughes, Bethesda, Gogledd Cymru.

Claddwyd hi yn mynwent Cedar Grove, y dydd Mercher canlynol, y Parch. J. M. Hughes yn gweinyddu.

Y Drych ~ Rhagfyr 16eg 1886.