MR. PETER PETERS. NEW COLUMBIA, PENNSYLVANIA.
Mawrth 31ain, 1886, yn New Columbia, Pennsylvania, Peter Peters, yn 76 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Towyn, Sir Feirionydd. Daeth i'r wlad hon pan oedd tua 28 mlwydd oed, ac ymsefydlodd yn Danville, Pennsylvania; wedi hyny bu yn byw yn Blossburg, ac oddiyno aeth i New Columbia, lle y trigianodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Yr oedd yn ddyn tawel iawn, yn gymydog caredig a hawddgar, ac yn un tyner iawn ei galon. Claddwyd ef yn mynwent White Deer Church pan y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y gweinidog, y Parch. W. Greenhough a Mr. John W. Griffith, myfyriwr yn Athrofa Lewisburg.
DEWI.