MR. ELIAS J. PRITCHARD. RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 24ain, 1886, yn Racine, Wisconsin, yn 46 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Elias J. Pritchard.

Yr oedd yr ymadawedig yn fab i'r hen ddiacon ffyddlawn David Pritchard, yr hwn sydd yn 85 mlwydd oed, ac wedi gweled claddu ei wraig ac amryw o'i blant. Ganwyd Elias J. Pritchard yn Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mai 6ed, 1840, ac ymfudodd ei rieni o Rhiwlas, yn agos i Bangor, yn 1845, gan ymsefydlu yn Racine. Nid oedd Racine ond pentref bychan a distadl pan y daeth ef yma; ond yma y magwyd ef, ac yma y bu fyw hyd ddydd ei farwolaeth.

Ymbriododd Mrs. Pritchard, yr hon sydd yn ferch i Mr. a Mrs. James Evans, Hydref 27ain, 1870, yr hon a adawodd i alaru ar ei ôl, yn nghyd a thri o blant prydferth, un mab a dwy ferch. Pan y torodd y gwrthryfel allan yn y wlad hon ymrestrodd i'r fyddin, a gwasanaethodd fel offer-chwareuwr yn Cwmni F. yn y 22nd Wisconsin Regiment of Volunteers am dair blynedd. Cymerwyd ef, a'r catrawd y perthynai iddi, yn garcharorion, a dygwyd hwy i garchar Libby, lle y buont am tua 24 o oriau. Bu yn dylyn Sherman ar ei daith trwy Georgia. Yr oedd yn ddyn o ymddiried, a bu yn llenwl swyddau pwysig.

Bu yn ben ar y Fire Department yn y dref hon; ac ar ei farwolaeth yr oedd yn Past Eminent Commander o'r Knight Templars. Yr oedd yn gallu darllen cerddoriaeth yn rhwydd a chywir, ac yn lleisiwr lled dda. Bu yn arwaln y cor yn eglwys y Bedyddwyr am un mlynedd ar ddeg. O ran ei gymeriad personol, gellir dweyd ei fod yn ddyn unplyg, cywlr a gonest yn ei holl drafodaeth.

Yr oedd ei gyfeillion, a'r rhai a'i hadwaenent oreu, yn dlbynu yn wastad ar ei air. Dywedal un o'i gyfeillion, yr hwn a'i hadwaenai er yn fachgen, nad oedd yn gwybod iddo erioed gyflawni un drwg. Yr oedd ganddo gylch eang o gyfeillion, ac yr oedd rhai o honynt wedi dyfod o bell i'w gladdedigaeth. Yr oedd yn dad tyner a phriod gofalus, bob amser yn hawddgar a charedig yn ei deulu. Yn ei ddyddiau diweddaf teimlai bryder yn nghylch ei gyflwr, a thystiolaethai ei fod yn pwyso ar ei Waredwr. Yr oedd yn byw ac yn ymgynal ar wirioneddau y Beibl.

Casglodd tyrfa fawr i'w gladdu, ac yn eu plith y Knight Templars ac aelodau o'r Grand Army of the Republic. Gwasanaethwyd gan y Parch. N. C. Mallory (B.) a'r ysgrifenydd.
JOSEPH BOBEBTS.

Y Drych ~ Ebrill 15fed 1886.