MRS. MAGGIE PRICHARD. RACINE WISCONSIN.

Ebrill l0fed, 1886, yn Racine, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, bu farw Mrs. Maggie Pritchard, anwyl briod Mr. Richard Pritchard, a merch i'r hen ddiacon ffyddlawn Dafydd Pritchard, yr hwn sydd yn ei chweched flwyddyn a phedwar ugain. Y mae yr hen dad wedi profi yn ystod ei drigiad yma aml a blin gystuddiau. Ni lithrodd ond ychydig ddyddiau er pan y bu farw ei fab, Elias Pritchard, o'r un afiechyd, yn 46 mlwydd oed; ac yn awr dyma Mrs. Pritchard wedi llithro trwy lyn cysgod angeu ar ôl ei brawd, yn 48 mlwydd oed, gan adael ei phriod a'i hanwyl Eddie i alaru ar ei hol; ac y mae yr hen wr ei thad yn teimlo colled fawr ar ei hol, a'i alar yn dyfnhau. Yr oedd Mrs. Pritchard yn gwneyd i fyny y seithfed o'r plant sydd wedi marw.

Daeth y teulu i'r wlad hon o Rhiwlas, ger Bangor, Gogledd Cymru, yn 1845, ac ymsefydlasant yn Racine. Ymbriododd Mrs. Pritchard â Richard Pritchard er ys yn agos i ddwy flynedd ar hugain, a bu ganddynt dri o blant, sef un ferch a dau fab; ond nid oes ond un bychan yn fyw i hiraethu ar ôl ei fam. Cafodd gystudd trwm, yr hwn a ddyoddefodd mewn amynedd, ac mewn ymostyngiad i ewyllys yr hwn sydd yn llywodraethu ar bob peth, ac hyd yn nod ar angeu ei hun. Y mae egwyddor ddyfnach mewn amynedd Cristionogol na'r teimlad o ymostyngiad am fod yn rhaid ymostwng. Gall y troseddwr yn ei gell ddysgwyl mewn amynedd am ddydd ei brawf, ac hyd yn nod dydd ei farwolaeth, ac eto heb ymostwng. Ond yr oedd y chwaer hon yn ymostwng mewn amynedd duwiol i ewyllys Duw. Gellir dweyd ei bod yn gorchfygu nerth marwolaeth am ei bod mor ewyllysgar i ymadael a'r byd hwn, mewn ymostyngiad i ewyllys Duw.

Yr oedd yn wraig dda, yn fam dyner a gofalus, ac fel y cyfryw yn hawlio parch a theimladau ei chydnabod heb ei geisio. Yr oedd wedi ei magu gyda chrefydd, ac yn grefyddol. Bydd yn golled fawr i'w phriod, ei bachgen bach, a'i thad ar ei hol. Bydded y nefoedd yn dyner o honynt.

Cafodd gladdedigaeth barchus, yn ôl arfer y Cymry yn y dref hon, pan y gweinyddwyd gan Dr. E. Corwin, y Parch. John P. Williams (A.), ac fe bregethwyd pregeth angladdol gan yr ysgrifenydd.
JOSEPH ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1886.


MRS. MAGGIE PRICHARD. RACINE WISCONSIN.

Mrs. Margaret Pritchard, wife of Richard Pritchard, and sister of the late Elias J. Pritchard, died at her home No. 833 Campbell Street, at 4 o'clock this morning, of consumption, aged 48 years.

She was a very estimable lady and beloved by all who knew her. A husband and three children survive her.

Funeral Tuesday afternoon at 2 o'clock from the welsh Presbyterian church.

Find a Grave.