MRS. MARGARET JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

COFIANT Am Margaret Jones, gwraig John Jones, dìlledydd, Steuben, sir Oneida, Caerefrog Newydd.

Ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818, o Leyn, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i Thomas a Jane Griffiths; bu farw ei thad pan oedd hi yn ieuangc; yr oedd ei mam yn aelod crefyddol yn nghymundeb y Trefnyddion Calfinaidd, ac hi fu yn Weinidoges ffyddlon a doeth yn nhŷ'r capel yn Pen-y-caerau, plwyf Aberdaron, sir Gaernarfon, am lawer o flynyddoedd.

Yr oedd hi yn un tebyg iawn i un a'i thŷ ar y graig, ac yn ôl barn y rhai a'i hadwaenai, y mae hi wedi myned i mewn i lawenydd ei Harglwydd ers llawer o flynyddoedd.

Yn fuan ar ôl i John Jones sefydlu gyda'i deulu yn Steuben, tueddwyd Margaret i feddwl am grefydd, ac ymunodd a'r eglwys, a glynodd gyda'r un enwad crefyddol ac y bu ei mam, nes gorphen ei dyddiau yn y byd hwn. Ymdrechodd yn ffyddlon yn ngwyneb gwendid ei chorff, a phob trafferthion i fyned i Foddion Gras yn hynod ddiesgeulus dros ei holl yrfa grefyddol, nes ei gorphen; hi deithiodd am flynyddoedd yn ddiwyd o Steuben i Gapel Pen-y-caerau, ac eilwaith pan adeiladwyd y capel cerrig yn Remsen, cafodd ei ffordd yn nes; ac yn eglwys Remsen y bu nes gorphen ei thaith, yn aelod reolaidd a diddolur i bawb.

Gwael o ran ei iechyd oedd hi ers tua deunaw mlynedd. Dydd Mercher y 5ed o Fai diweddaf, aeth yn waelach nac arferol. Nos Sul, y 9fed, cwynai gan ofid yn ei phen; daeth y meddyg yno, a dywedodd mai y cyflym ddarfodedigaeth (quick consumption,) oedd ei salwch, ac felly yr oedd. Dydd Mercher yr oedd yn gwaelu yn gyflym. Yn y prydnawn cynghorai ei phlant gyda'r dwysder mwyaf i ddewis y rhan dda, yr hon na allai neb ei dwyn oddiar y sawl a'u caffo. Y mae, meddai, yn gynnwysedig mewn gwir grefydd, brofiad o waed Iesu Grist, ei Fab Ef, yn ein glanhau oddiwrth bob pechod; pan yn crybwyll am y gair gwaed, rhoddai bwys neillduol arno; cynghorai ei gwr, yr un modd a'r plant, gan ddywedyd y deuai ef yn fuan ar ei hol; a thua 6 ar gloch hwyr y 12fed dydd, bu farw, pan yn 62 mlwydd oed. Gwnaeth angau ei orchwyl mewn byr amser, ac ehedodd ei rhan anfarwol, yr ydym yn hyderu, i wlad y tangnefedd diddarfod.

Ar y 14eg, cyn cychwyn ei chorff o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. R. Everett. Ac ar ol myned i gapel Pen-y-caerau, ar yr achlysur, pregethodd Mr. David Williams, Remsen, oddiar Phil. i. 21, a'r Parch. R. Everett oddiwrth Salm xvi. 15; hefyd wrth y bedd, cynghorodd R. Everett y rhai byw gyda dwysder, ac yna -

'Troisant bawb eu cefnau - dyma'r dydd
Gadawsant hi'n ei gwely pridd.'

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorffennaf 1847.