MR. GRIFFITH PUGH. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 13eg, 1886, yn ei breswylfod, gerllaw Rome, New York, yn 62 mlwydd oed.

Griffith Pugh, dyn tra adnabyddus a pharchus yn y ddinas er's llawer o flynyddau, ac yn un o golofnau cedyrn yr achos Methodistaidd.

Ei salwch oedd malignant pustule. Un ydoedd o naw o blant i David a Catherine Pugh, Bwlch-rhos wen Uchaf, Sir Feirionydd, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon yu 1841, gan ymsefydlu yn Steuben.

Yn 1846 priododd yr ymadawedig Mary Williams, merch John a Margaret W1111ams. Prospect. Buont yn byw am bum mlynedd yn Holland Patent; wedi hyny am saith mlynedd yn Westmoreland. Yn 1853 prynodd Griffith Pugh fferm yn agos i Rome, ar yr ochr ddwyreiniol i'r ddinas, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn 1880 ymunodd ag eglwys y T. C., a bu yn aelod ffyddlon weddill ei oes. Credai mai nid lle i segura yw yr eglwys; felly dyblodd ei ddiwydrwydd gyda chrefydd, gan fynychu y moddion gyda chysondeb, a gwneyd pob peth er gogoniant ei geidwad.

Yr oedd yn ffyddlon a serchog yn ei gartref fel priod a thad; ac fel meistr yr oedd bob amser i fyny a'i air. Yn y capel yr oedd yn barod at bob dyledswydd - gweddio, siarad yn y gyfeillach, canu a chyfranu yn haelionus. Y Beibl a'r Llyfr Eymnau oeddynt ei hoff lyfrau; ac fel y dynesai at derfyn ei yrfa amlwg oedd ei fod yn dyfod yn addfetach i'w gartref nefol. Y Sabboth diweddaf y bu yn y capel, Awst 29ain, wedi iddo gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, cododd ar ei draed drachefn, ac adroddodd y penill:

"Y mae un uwchlaw pawb eraill,"

gan draethu ychydig ar pob llinell, ac arddangos profiad melus. Cynghorai bawb i ymddiried yn y gŵr oedd ef wedi rhoddi ei achos i'w ofal: canys meddai, "fe allai mai hwn yw y Sabboth olaf i rai o honom gael dyfod i'r capel." Teimlai er's rhai wythnosau ryw anhwyldeb yn ei gyfansoddiad; ond gweithiodd ddyddiau Llun a Mawrth. Erbyn dydd Mercher yr oedd y ploryn bychan ar ochr ei wddf yn dechreu chwyddo, a phenderfynodd fyned at y meddyg, yr hwn a ddywedodd wrtho ei fod mewn cyflwr lled beryglus. Erbyn boreu dydd lau yr oedd y chwydd wedi ymledu at ei ddwyfron, ond ni theimlai boen. Cododd am ychydig, ond aeth yn fuan i orwedd i beidio codl mwy. Ymddengys fod yr afiechyd wodi dechreu oddifewn er's rhai dyddiau cyn iddo dori allan; ac fod ei galon wedi ei pharlysu fel yr oedd y salwch yn ddiboen iddo.

Ychydig wedi 7 boreu Gwener, hunodd yn yr angeu, gau adael priod ac wyth o blant i alaru ar ei ôl, sef H. J Pugh, Floyd; John ac Edward M. Pugh, Mrs. H. J. Hughes, Mrs. W. G. Jones, Mrs. John Williams, Misses Jennie a Louisa Pugh. Rome; hefyd dau frawd, Meredith Pugh, Rome, a David Pugh, Brooklyn; a thair chwaer - Mrs. Mary Lloyd, Llandderfel; Mrs. Morgan Williams, Rome, a Mrs. Elizabeth Jones, Waterville.

Y dydd Llun canlynol ymgynullodd tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo. Dechreuwyd y gwasanaeth yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, a siaradodd y Parch. J. H. Jones yn Saesonaeg. Dechreuwyd yn y capel gan y Parch. D. E. Pritchard, a phregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. J. H. Jones, ac yn Saesneg gan y Parch John Roberts. Hebryngwyd ei weddillion i gladdfa Floyd. Teimlir colled ar ôl Mr. Pugh mewn llawer cylch.

Barnwr y weddw a thad yr amddifaid a fyddo yn ddyddanwch ac amddiffyn i'r teulu. Traddodwyd pregeth angladdol yn y capel, nos Sul, gan yr ysgrifenydd.
G. GRIFFITH.

Y Drych ~ Medi 23ain 1886.