MRS. JANE ROBERTS. LAKE EMILY, WISCONSIN.
Merch ydoedd gwrthddrych y cofiant hwn i Mr. a Mrs. William Williams, Ty'n-y-twll, Llan-ddeinlolen, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn un o saith o blant.Daeth Jane Roberts i'r wlad hon gyda ei modryb, Catherine Foulk, yn 1845, ac ymsefydlodd yn ardal Blaen-y-cae, Wisconsin. Bu yn gwasanaethu yn y gymydogaeth ac oddi amgylch am saith neu wyth mlynedd.
Priododd â Mr. Owen Jones, Bryn-y-Llan, Llanrug, Sir Gaernarfon. Gwenodd Rhagluniaeth arnynt, a chawsant gartref cysurus iddynt eu hunain yn Lake Emily, Wisconsin.
Yn mhen 23 mlynedd collodd ei hanwyl briod.
Yn mhen tua thair blynedd priododd â Thomas Roberts, Blaen-y-cae. Dechreuodd Mrs. Roberts, glafychu, a bu yn wael am bedwar mis ar ddeg, gan ddyoddef poenau arteithiol am y pedwar mis diweddaf o dan effeithiau ofnadwy y cancer. Er nad oedd Mrs. Roberts yn rhyw gymeriad cyhoeddus iawn, meddai ar neillduolion amlwg. Nid oes modd i ni wahaniaethu y naill oddiwrth y llall heb y neillduolion sydd yn perthyn i ni. Y mae rhyw bethau sydd yn perthyn i bawb fel eu gilydd; ond nid wrth yr hyn sydd yn gyffredin i bawb yr ydym yn gallu adnabod ein gilydd, eithr wrth yr hyn sydd anghyffredin yn y naill a'r llall. Y mae y gwyneb dynol i'w adnabod oddiwrth wyneb pob creadur arall trwy y nodweddau cyffredinol sydd yn perthyn i bob gwynebdynol; ond y mae gwyneb y naill ddyn i'w wahaniaethu oddiwrth y llall, nid trwy y nodweddau cyffredinol perthynol i bob gwyneb, yn gymaint a thrwy y nodweddau neillduol sydd yn perthyn iddo. Yr hyn sydd wir am ddyn yn anianyddol, sydd yr un mor wir am dano yn foesol. Adnabyddir y naill gymeriad oddiwrth y llall trwy y neillduolion sydd yn perthyn iddo. Ni soniwn am hyn i geisio argraffu ar feddwl neb fod gan Mrs. Roberts fwy o neillduolion nag arall; ond er dangos fod ganddi hi ddigon i'w hadnabod wrthynt a'i gwerthfawrogi.
Dywedodd un o'r gweinidogion ar ddydd ei hangladd, mai "dynes ddystaw oedd Jane Roberts," yr hyn oedd yn un o'r neillduolion hyny. Nid ydoedd yn ddystaw am nad oedd ganddi beth i'w ddweyd. Gwyddai Mrs. Roberts pa beth, pa bryd, a pha le i siarad; ac o herwydd hyn enillodd iddi ei hun y neillduolrwydd o fod yn ddystaw. Yr oedd gochelgarwch i'w weled ynddi yn ei chysylltiad a'r byd hwn, yn gystal ag yn ei pherthynas a chymdeithas yn gyffredin, a'r eglwys yn neillduol.
Dywedodd un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus y rhan hon o'r Dalaeth, na chyfarfyddodd ag ond ychydig yn fwy craff gyda phethau y byd hwn na hi. Trwy y craffder a'r gochelgarwch hwn bu yn llwyddianus iawn, nid yn unig i edrych ar ôl ei heiddo ar ôl marwolaeth ei phriod cyntaf, ond i ychwanegu llawer ato. Nid oedd yn orfydol a chybyddlyd. Yr oedd ei thŷ bob amser yn agored ar bob adeg, a chyfiawnder o bob darpariaeth ar gyfer pawba ddeuent yno. Y mae llu o bregethwyr yn dystion o'i charedigrwydd a'i pharodrwydd i'w gwneyd yn gysurus tra yn ei thŷ. Nid oedd ei phrofiadau crefyddol yn uchel; ond hyderir iddi gael gafael ar wreiddyn y mater. Dangosai ei bywyd fod ganddi barch i bethau crefydd. Fel y bu fyw y bu farw. Yr oedd yn dawel yn ystod ei chystudd. Gobeithiai yn ddystaw am fisoedd lawer am adferiad, a dymunai am hyny yn daer; ond pan y deallodd fod awr ei hymddatodiad wedi dyfod, ac nad oedd un gobalth am adferiad, rhoddodd i fyny ei gobaith yn lled dawel. Campwaith yw gwneyd hyn yn gwbl ewyllysgar. O bob marwolaeth, marwolaeth gobaith yw y caletaf. Pan yn gollwng ei gafael o obaith adferlad, trodd at ei chwaer a'i nith, a dywedodd, " Wel, berthynasau bach, 'Ni frysia yr hwn a gredo,' yr wyf yn meddwl yn siwr fy mod wedi credu. Nid wyf wedi gwneyd cymaint o broffes mewn geiriau ag a ddylaswn, ond nid oes arnaf ofn marw heddyw."
Hunodd Mai 11eg, 1886. Ar ddiwrnod ei hangladd ymgasglodd tyrfa fawr i dalu parch iddi trwy hebrwng ei gweddillion i fynwent y teulu yn Blaen-y-cae. Gwasanaethwyd yn gyhoeddus gan y Parchn. J. R. Daniel, D. Pugh, D. R. Jones, a'r ysgrifenydd. Duw a barhao yn amddiffyn i'w phriod sydd wedi ei adael yn unig, ac i'w chwaer sydd mewn hiraeth.
Uwch y bedd mae gloewach byd - i gariad
Flaguro mewn eilfyd;
A thwf îr ei ffrwyth hyfryd
Ynddo geir yn hedd i gyd.
J. R. JONES (Hendref.)