MR. DAVID ROWLANDS. GRANVILLE, NEW YORK.

Chwefror 1af, 1886, ar ôl hir nychdod, yn 42 mlwydd oed, David Rowlands, Granville, New York, gan adael gweddw a phedwar o blant i alaru ac ei ôl.

Claddwyd ei weddillion ar y 3ydd, yn Middle Granville. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. T. M. Owen, gweinidog yr eglwys y perthynai'r ymadawedig iddi.

Brodor ydoedd o Ffestiniog, Gogledd Cymru, a mab i "Dafydd Rolant y gof."

Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 22ain o flynyddoedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn Bangor, Pennsylvania, hyd nes y symudodd yn ddiweddar i'r lle y bu farw. Yr oedd yn ddyn tawel a rhinweddol, ac arferai fod yn llawn hoenusrwydd yn y dyddiau fu; eithr yr oedd y pedair blynedd diweddaf wedi gwanhau llawer ar ei nerth corfforol. Nis gwyddom a oes perthynasau iddo yn y wlad hon, oddigerth ei frawd Howell Rowlands, Bangor, Pennsylvania, yr hwn fu yn talu y gymwynas olaf iddo.

Ior alwodd ar Dafydd Rolant, - o wely
Gwaeledd i ogoniant;
A Ior all droi mawr welliant,
O rwyg blin ei wraig a'i blant. D. O. M.

Y Drych ~ Chwefror 18fed 1886.