MRS ANN THOMAS, CAROG, BETHEL, REMSEN, ONEIDA CO, NEW YORK.

Mab John Thomas a Catherine Ellis o Carrog ym mhlwyf Bryncroes.

Priododd John gyda Ann Williams, a gellir gweld yng nghofrestr priodasau Eglwys Bryncroes ar 8/12/1821 John Thomas o blwyf Bryncroes yn priodi Ann Williams o blwyf Bryncroes.

Ganwyd Ann ar 29 Mawrth 1801, merch William a Jenette Gabriel.

Yn 1823 ymfudo i America.

Ganwyd iddynt naw o blant ond yr oedd saith ohonynt wedi marw o flaen eu rhieni. Un mab, John ac un ferch Jochebed a fu fyw ar ôl eu rhieni.

Buont yn byw yn Efrog Newydd am rai blynyddoedd, ac wedyn prynu fferm yn Boonville.

Oddiwrth cyfrifiadau yr Unol Daleithiau gellir gweld fod John yn berchen 130 erw o dir, 100 erw yn cael ei drin a 30 erw o dan goed. Ar y tir 'roedd yn cadw 4 caffyl, 13 buwch odro, 2 ychen yn gweithio, 4 o wartheg ieuanc, 19 dafad a 3 mochyn. 'Roedd yn tyfu ychydig o wenith, haidd ac india corn, ond y prif gnwd oedd ceirch, ac yr oedd ganddo 120 hobaid o geirch yn 1870.

Bu John J Thomas farw ar 16ed Mai 1875 yn 75 oed.

Bu Ann Thomas farw ar 19eg Medi 1886 yn 85 oed.

Claddwyd y ddau ym mynwent Capel Bethel, Remsen.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.


MRS ANN THOMAS, BETHEL, REMSEN, ONEIDA CO, NEW YORK.

Medi 12fed, yn nghymdogaeth Bethel, Remsen, New York, ar ôl gwaeledd o amryw flynyddau, bu farw y chwaer hon, yn 85 mlwydd a 6 mis o'i hoedran.

Ar y 15fed, rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn nghladdfa y teulu yn Bethel, lle y gorweddai yr hyn oedd farwol o'i phriod, a phump o'i phlant o'i blaen.

Pregethwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. H. R. Williams, Floyd, yn Gymraeg, ac E. Davies, Remsen, yn Saesoneg. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan y Parchn. J. Seth Jones, Remsen, a William D. Williams, Deerfield.

Ganwyd Mrs. Thomas yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mawrth 29ain, 1801. Enwau ei rhieni oeddynt William a Jenette Gabriel.

Rhagfyr 8fed, ymunodd mewn priodas â Mr. John J. Thomas. Ac ymfudasant i'r wlad hon o Bryncroes, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1823. Buont yn byw am rai blynyddau yn New York a'r gymdogaeth a adwaenir yn awr wrth yr enw Bethel lle y treuliasant y gweddill o'u hoes. Bu iddynt naw o blant, o ba rai nid oes ond dau, sef Jochebed eu merch, a John eu mab yn fyw.

Yn y flwyddyn 1838, derbyniwyd John ac Ann Thomas gyda'i gilydd, ac amryw eraill, yn aelodau eglwysig gan y diweddar Barch. Morris Roberts, yn yr hen ysgoldy, lle y cynelid moddion crefyddol cyn adeiladu capel Bethel. Hwnw oedd y cymundeb cyntaf a gafwyd yn y gymdogaeth. Dangosodd Ann Thomas ei ffyddlondeb ar gychwyniad ei gyrfa grefyddol, drwy gerdded i Remsen, saith milldir o'i chartref, ac yn ôl, er ceisio y pethau angenrheidiol at y Sabboth cymundeb hwnw.

Ac o hyny hyd pan analluogwyd hi gan waeledd a henaint, bu yn aelod cyson a ffyddlon iawn o'r eglwys yn Bethel, am yn agos i haner can mlynedd. Yr oedd ei hargyhoeddiad yn drwyadl ar ddechrau ei gyrfa grefyddol, a bu fyw, fel nad oedd un amheuaeth yn meddwl neb a'i hadwaenai am ei didwylledd. Bu ar hyd ei hoes yn ddiwyd ac ymdrechgar gyd goruwchwylion y bywyd hwn, ond nid anghofiodd bethau mwy pwysig byd arall. Un hynod ddigellwair a siriol. Ni chymerai drafferth i wisgo gwedd gorgrefyddol, ac eto, yr oedd ei theimlad crefyddol yn fyw ac iraidd.

Clywsom hi yn mlynyddoedd cyntaf ei bywyd crefyddol yn adrodd profiadau uchel lawer tro, a pharhaodd yn gyson a diwyd i fyw bywyd difwlch a gwastad grefyddol hyd y diwedd. Bu yn gymdoges garedig ar hyd ei hoes, yn yr ardal. Yn ei theulu bu yn briod ffyddlon, ac yn fam garedig a gofalus iawn. Ac yn yr eglwys yr oedd yn un o'r aelodau mwyaf ffyddlon. Yr oedd er's amser yr hynaf, a'r unig un yn wir, o'r hynaf sefydlwyr yn yr ardal. Ac yn ei marwolaeth mae y ddolen olaf oedd yn cysylltu yr eglwys fel y mae yn bresenol, a'r hyn ydoedd ar y dechrau, wedi ei thori.

Y mae yn yr eglwysrai, yn mae'n wir, oeddynt ynddi ar ei chychwyniad, ond yr oeddynt yn lled ieuanc y pryd hwnw, ac nid ydym yn foddlon eto i'w galw yn hen. Y mae yr hen bobl dda a ffyddlon a gofiwn yn Bethel yn y blynyddoedd gynt, wedi myned ymaith, ac yn awr y mae yr hen chwaer ffyddlon Ann Thomas, a gafodd aros am rai blynyddoedd ar ôl ei chyfoedion, wedi ei chasglu at ei phobl. Y mae yn gysur gwerthfawr i gofio pan y mae aelodau yr eglwys yn meirw, fod y Pen mawr yn fyw, ac y gofala am ei achos hyd ddiwedd y byd. Cyfoded etp aelodau ffyddlon yn Bethel i lanw lleoedd y rhai sydd wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr mawr yn y nefoedd.

Haedda ei merch Jochebed glod mawr am y gofal da a gymerwyd o'i mham, yn ystod ei gwaeledd maith, Taled yr Arglwydd iddi am y caredigrwydd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Hydref 1886.