MR. JOHN O. THOMAS. DANIELSVILLE, PENNSYLVANIA.

Mai 26ain, 1886, yn Danielsville, Pennsylvania., John O. Thomas, yn 50 mlwydd a 5 mis oed, o'r bronchitis, oddiwrth yr hwn y dyoddefodd lawer yn ystod y deng mlynedd diweddaf.

Mab ydoedd i'r diweddar Owen Thomas, Penybont, Llandinorwlg, Gogledd Cymru. Mae ei fam, Mary Thomas, yn byw yn yr hen gartref eto, yr hon yn ei lesgedd a'i henaint y bydd y newydd am ei farwolaeth yn loes chwerw yn ddiau.

Daeth i'r wlad hon oddeutu 31 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn y gymydogaeth uchod. Yn 1861 priododd gyda Miss Elizabeth Price, merch William ac Ellen Price, o'r un ardal, yr hon a brofodd yn fendith amhrisiadwy iddo, drwy ei sirioldeb a gofal am dano yn ystod ei faith a'i fynych wendid. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o'r chwarelwyr, yn fwyaf rhwydd wrth enw ei hen gartref "Penybont," a hoffid ef yn fawr ar gyfrif ei hynawsedd a'i garedigrwydd. Dyn calonog a gwyneb-lawen oedd o anlanawd; yr oedd yn wastad â gwen ar ei enau, fel y dywedir; ac er ei fod yn tori i lawr o ran ei lechyd er's blynyddoedd, a chanddo dyaid o blant bychain heb orphen eu magu, nid ymollyngodd o ran ei ysbryd.

Dylynodd ei orchwyl hyd yr oedd yn bosibl, yr hyn, gyda gofal a diwydrwydd ei hoffus briod a bendith Duw, a'u dygodd drwy yr holl anfanteision heb golli eu hanibyniaeth.

Ymunodd ag eglwys y T. C. 11 mlynedd yn ôl. Teimlai fwy o ddyddordeb gyda'r canu nag un rhan arall o wasanaeth y cysegr. O ran ei broflad crefyddol, ymdeimlai yn wastad oddiwrth ei annheilyngdod, a cheisiai ymddiried yn yr "Hwn a osododd Duw yn Iawn." Gadawodd briod serchus, tri o fechgyn a phump o enethod mewu galar dwys ar ei ôl. Y Duw a'u daliodd hyd yn hyn a ychwanego ei nawdd a'i ofal am danynt "hyd derfyn eithaf bryniau tragwyddoldeb."

Prydnawn Sadwrn dylynol dygwyd ei gorff gan dyrfa luosog o'i hen gyfeillion i'w dŷ rhagderfynedlg yn mynwent Cherryville, a gwasanaethwyd yn yr angladd gan weinidog y lle.
JOHN W. MORRIS.

Y Drych ~ Gorffenaf 22ain 1886.