MR. RICHARD THOMAS. CHURCH HILL, OHIO.
Chwefror 25ain, 1886, yn Church Hill, Ohio, yn 63 mlwydd oed, wedi hir nychdod, gan diffyg anadl, Richard Thomas.Brodor ydoedd o ymyl Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Tua 38 mlynedd yn ôl aeth i lawr i'r Deheudir, ac yno y priododd; a thua 18 mlynedd yn ôl ymfudodd ef a'i briod i'r wlad hon.
Bu yn aelod am flynyddau lawer gyda'r T. C. Yr oedd yn ddarllenwr mawr o'r Belbl, ac yn lled oleu yn yr ysgrythyrau, ac hyderwn ei fod wedi myned o wlad y cystudd i wlad yr iechyd tragwyddol.
Claddwyd ef yn mynwent y lle, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. A. S. Phillips. Nos Sabboth, Ebrill 18ed, pregethodd y Parch. E. Evans bregeth angladdol iddo. Yr Arglwydd fyddo yn llon'd ei addewid i'r weddw oedranus sydd wedi ei gadael ar ôl yn yr anialwch.