MRS. CATHERINE J. WILLIAMS. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Marwolaeth Gwr a Gwraig yn Marcy, New York.

Rhagfyr 29ain, 1885, bu farw yr hen frawd ffyddlon a thawel, Thomas E. Williams, ac ychydig dros fis ar ei ôl, sef Chwefror 4ydd, dylynwyd ef i dir angeu gan ei briod Mrs. Catherine L. Williams.

Ganwyd y brawd Williams yn mhlwyf Steuben, New York, Medi 19eg, 1813, a ganwyd ei briod yn Aber, Sir Gaernarfon. Daeth hi i'r wlad hon yn 1827, ac ymunodd mewn glan briodas gyda Thomas E. Williams yn 1839. Rhoddasant eu hunain yn aelodau o eglwys y Bedyddwyr yn y Capel Isaf, Steuben, a bu y brawd Williams yn ysgrifenydd yr eglwys, ac hefyd yn un o'i diaconiaid am y rhan fwyaf o'i fywyd crefyddol.

Symudodd y teula i Marcy yn 1880, er colled fawr i'r eglwys fach yn Steuben, er iddynt barhau yn aelodau yno hyd y diwedd. Adnabyddir ef wrth yr enw Thomas Williams, Bryn Goleu. Bu y ddau farw mewn llawn sicrwydd gobaith. Cafodd hi gystudd lled faith, ond gallasai ddweyd fel yr apostol, "Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol." Gadawsant blant ar eu holau, a'r oll wedi tyfu i fyny, eto yn teimlo yn alarus iawn ar ôl rhieni anwyl. Enwau y plant ydynt: Miss Cornelia Williams, Mrs. Christmas Hughes, Mrs. Howel Thomas, Mr. Thomas Williams, a Mrs. Albert Williams, yr oll yn byw yn Maroy, New York, ond Thomas, yr hwn sydd yn byw yn Remsen.

Hebryngwyd eu gweddillion marwol i fonwent Capel Isa, Steuben. Cadwyd y gwasanaeth yn nghapel Seion, Remsen. Gweinyddwyd yn yr angladd cyntaf gan y Parch. E. G. Williams, yn Saesneg, a chan yr ysgrifenydd yn Gymraeg; ac yn angladd yr olaf gan yr ysgrifenydd ei hun. Yr oedd yr angladdau yn ddangosiad o barch eu hardalyddion iddynt, gan fod y capel wedi ei or-lanw y ddau dro.
OWEN F. PARRY.

Y Drych ~ Ebrill 22ain 1886.