MRS. JANE WILLIAMS. BOSTON MASSACHUSETTS.
Mawrth 28ain,1886, yn 38 mlwydd oed, yn ei phreswylfod, 359 Charles Street, Boston, Massachusetts, Jane, priod Owen A. Williams. Ei hafiechyd ydoedd clefyd y galon.Merch ydoedd i'r diweddar J. A. Jones, Bontuewydd, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Dylynodd ei phrlod i'r wlad hon yn 1871, a buont yn byw am beth amser yn New York a Slatington, Pennsylvania; ond treuliasant y tair blynedd ar ddeg diweddaf yn Boston. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn Cedar Grove Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Samuel E. Herrick, D. D.
Rhagflaenwyd hi i dŷ ei hir gartref gan ei phlant flynyddau yn ôl.
O. A. W.