MR. JOHN WILLIAMS, MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON, NEW YORK.

Mawrth 13eg 1886, yn Middle Granville, New York, yn 57 mlwydd a 4 mis oed, o'r darfodedigaeth, bu farw Mr. John Williams, "Cae Corniog" - a elwid felly oddiwrth y lle y ganwys ag y magwyd ef ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1852.

Yn 1857 ymunodd mewn priodas a Miss Jane Davies, merch Ellis a Mary Davies, Ceunant Llanberis, a phrofodd yr undeb yn un hapus a dedwydd hyd y diwedd. Wedi priodi sefydlasant am beth amser yn Fair Haven, Vermont, ac oddi yno daethant i Middle Granville, New York.

Bu iddynt 14 o blant, o'r rhai mae 9 yn fyw, chwech o ferched a thri o feibion.

Cafodd yr ymadawedig hir a blin gystydd, a dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach, gan bwyso ar ei Geidwad. Aeth am dro i'r Hen Wlad yn mis Mai diwethaf, a dychwelodd yn Medi, heb dderbyn dim gwellhad. Yr oedd ei hen glefyd, y darfodedigaeth yn glynu wrtho ym mhob man, ac er pob ymdrech, a glynodd hyd gorffen ei waith.

Ychydig ddyddiau cyn marw breuddwydion ei fod yn nesu at afon fawr ac yn estynplanc iddo fyned drosodd, ac iddo yntau gyda gofal a thipyn o bryder ymddiriedei hun ar y planc, nes ei fyned trwodd yn ddiogel i'r lan arall. A phan yn siarad a'r teulu am y breuddwyd, gofynwyd iddo, 'Sut y bu hi arno yn yr afon' "Wel ofnus iawn oeddwni o hyd," meddai yntau "ond well cyrraedd y lan draw yr oeddwn yn ddedwydd a diolchgar." Mynych y soniai yn ei ddyddiau olaf am y nefoedd, a'r mwynhad a deimlai wrth gofio gweddiau ei hen fam duwiol. Dywedai ei fodyn gysur iddo yn ei gystudd.

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn bywiog, siriol, cyfeillgar a charedig iawn. Yr oedd yn un o'r Cymry mwyaf adnabyddus a dylanwadol yn yr ardaloedd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol a bu yn ddilynwr Crist am flynyddau lawer, a hyderai ynddo yn ei angau. Yr oedd yn un o aelodau ffyddlonaf a pharchusaf y Free Masons, y rhai a ddangosasant eu parch i'w coffadwriaeth trwy dyfod yn un corff i hebrwng ei weddillion i'r hedd.

Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn. Edward Roberts a Thomas M. Owen, Granville, a chan gapten y Free Masons wrth y bedd. Cafodd un o'r angladdau mwyaf parchus a gafodd yn un o'n cenedl yn yr ardaloedd yma erioed. Heddwch i'w lwch i orwedd yn dawel yn ymyl ei anwyliaid, ei fam, a'i blant, yn mynwent bryferth Middle Granville.

Marwolaeth John Williams, Cae Corniog, Middle Granville N. Y.