PARCH. JOHN R. WILLIAMS. WILLIAMSBURG, IOWA.

Mawrth 27ain, 1886, yn ei gartref prydferth yn Williamsburg, Iowa, y Parch. John R. Williams, yn agos i 60 mlwydd oed.

Bu Mr. Williams yn preswyllo mewa amryw fanau yn y wlad hon o'r adeg y daeth yma o Llanfairfechan, Arfon (ei le genedigol) yn 1854. Yma y bu y deng mlynedd olaf o'i oes. Bu yn pregethu am lawer o amser yn y Cyfundeb Wesleyaidd yn Nghymru, yn Canada ac yn Nhalaith New York. Ymunodd a'r Cynulleldfaolwyr, a bu yn gweinidogaethu gyda hwy yn Pittston, Pennsylvania, a manau eraill.

Claddodd ei briod yn Long Creek, Iowa, a phriododd Mrs Rogers yma, yr hon, gyda'i dri plentyn, sydd wedi eu gadael yn weddw ac yn amddifaid.

Cafodd angladd mawr a pharchus iawn dydd Llun, Mawrth 29ain. Gweinyddwyd yn y tŷ yn gyntaf, ac aed ag ef i'r addoldy Cynulleidfaol, lle y bu yn addoli lawer gwaith gyda'i frodyr a'i chwiorydd eglwysig. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Thomas E. Hughes a'r gweinidog Ceir maayllon pellach am dano eto yn y Cenhadwr. Heddwch i'w lwch hyd foreu braf caniad yr udgorn y dydd hwnw.
HENRY DAVIES.

Y Drych ~ Ebrill 15fed 1886.