MR. JOHN W. WILLIAMS. DODGEVILLE, WISCONSIN.

Tachwedd 16eg, 1886, yn Dodgeville, Wisconsin, ar ôl mis o gystudd caled, o wahanol anhwylderau, John W. Williams, "Y Canwr" fel yr adnabyddid ef. Cymerwyd ef yn glaf Hydref 18fed, yn ei gartref yn ardal Salem, pryd y dygwyd ef i Dodgeville i ymofyn am feddyg, a throes i dy ei ferch, Mrs. W. J. Hughes, i orphwys am ychydig ddyddiau, ac i fod yn fwy cyfleus i'r meddyg i ymweled ag ef; ond myned yn waeth waeth yr oedd, hyd y dydd a nodwyd, pan roes angeu derfyn ar ei boenau arteithiol, er yr oll a allai priod serchog, a phlant ffyddlon, a chyfeillion caredig wneyd iddo.

Claddwyd ef ail dranoeth yn meddrod y teulu, yn mynwent Dodgeville, gweinidogion y dref a'r ardaloedd yu gweini yn yr amgylchiad, a'r Parch. G. Jones yn traddodi pregeth angladdol yn Salem, Sabboth, Tachwedd 12fed.

Ganwyd Mr. Williams Awst, 1815, yn ardal Llanfrothen, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Mab ydoedd i William. Willoams. Yn 184l, priododd gydag Alice Morris, cyfnither y Parch. O. R Morris, a ganwyd iddynt naw o blant. dau o'r rhai oedd wedi rhagflaenu eu tad. a'r gweddill wedi tyfu i fyny, ac yn bresenol yn ei gystudd a'i angladd oddigerth yr ail fab, G. W. Williams, Central City, Colorado. Ei fab ef yw William. W. Williams gafodd y fath fwyafrif ar y tocyn Gwerinol am County Clerk dros Swydd Iowa.

Yr oedd yn dderbynydd o'r DRYCH er's dros 33 o flynyddoedd; ac yn ddosbarthwr y Cyfaill er's yn agos i ugain mlynedd. Yr oedd yn selog gyda y T. C. er's 65 o flynyddoedd, ac yn ddiacon gweithgar yn eglwys Salem er's yn agos i 19 mlynedd. Meddai allu a serch ymlynol at gerddoriaeth y cysegr. Bu yn flaenor y gân yn Dodgevlile am ddeuddeg mlynedd, ac felly yn Salem am lawer o flynyddau. Yr oedd yn selog a ffyddlon lawn, yn dylyn moddion gras, crefydd a'i hordinhadau yn agos at ei feddwl bob amser; a rhoes dystiolaeth yn ei ddyddiau olaf fod ei grefydd a'i Dduw yn fforddio cysur a dyddanwch iddo yntau, pan yn rhodio "glyn cysgod angeu." Duw fyddo yn llon'd ei addewid i'r weddw a'r plant yn eu galar a'u hiraeth.
W. J. H.

Y Drych ~ Rhagfyr 30ain 1886.