MRS. MARTHA WILLIAMS. NELSON FLATS, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 17eg, 1886, yn 35 mlwydd oed, yn Nelson Flats. Madison County, New York, ar ôl bod yn nychu am bedair blynedd o'r darfodedigaeth, Martha, anwyl briod Humphrey Williams, gan adael priod a phedwar o blant bychain i alaru ar ei hol.Genedigol ydoedd o Sir Gaernarfon, a bu yn byw am flynyddoedd yn Bontnewydd, ger Caernarfon; wedi hyny yn Caeathraw, lle y priododd gyda Humphrey Williams. Symudasant i Gwmyglo, ger Llanberis, lle mae ei mam yn byw yn awr, ac oddiyno daethant i'r wlad hon tua pedair blynedd ar ddeg yn ôl, gan ymsefydlu ar ffarm yn Nelson Flats hyd ei marwolaeth. Yr oedd Mrs. Williams yn gyfnither i Mr. Robert W. Jones, Utica.
Dynes dawel, addfwyn, bob amser yn barod i wneyd cymwynas ydoedd, a theimlir ei cholli o'r ardal gan y cymydogion a'i ffryndiau. Claddwyd hi y dydd Gwener canlynol yn mynwent yr A. yn Nelson, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. Williams. Tad yr amddifaid fyddo yn gysur i'r rhai a adawyd i allaru ar ei hol.
R. W. J.