MR. ROWLAND WILLIAMS. CRAWFORDSVILLE, IOWA.
Hydref 22ain, 1886, yn 40 mlwydd oed, Rowland Williams, yn y Dalaeth Auraidd. Mab ydoedd yr ymadawedig i Richard a Jane Williams, Crawfordsville, Iowa.Efe oedd yr hvnaf o naw o blant: blaenodd dau ef i'r byd arall, ac mae tri brawd a thair chwaor a thad a mam a priod ieuanc a tri o blant yn galaru ar ei ôl, a lluaws o gyfeillion.
Ganwyd a magwyd y mab hwn yn Ty'r Capel Wesleyaldd, Llanfairfechan, Gogledd Cymru, deugain mlynedd yn ôl i'r 15fed o Fedi diweddaf.
Daeth y teulu i'r wlad hon dros 20 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Flint Creek, Iowa; ac oddiyno symudasant i Long Creek, yn yr hwn le y maent ato. Aeth fy nghyfalll o Long Creek i California 15 mlynedd yn ôl, mwy neu lai; ac mae y cffnod olaf o'i fywyd yn hollol ddyeithr i mi dichon y cawn ei hanes gan ryw gymydog iddo.
Cychwynodd i California gyda chyfaill iddo, yr hwn yn fuan a benderfynodd ddychwelyd i Iowa, ond a laddwyd yn y gerbydres ar y ffordd. Trwy y penderfyniad meddwl a'i nodweddai gorchfygodd Rowland Williams lu o anhawsderau, a mynodd gartref cysurus iddo ei hun. Cafodd gystudd trwm dan y cancer yn y cylla.
Pan oedd ei dad yn hwylio ei hun i fyned i Gymanfa yr A. yn Long Creek, dyma newydd ar aden y fellten fod ei fab yn agoshau at yr afon. Prysurodd yno, a chafodd ef yn wan iawn: ond llonodd ei ysbryd gymaint yn yr olwg ar ei anwyl dad, fel y daeth ei deulu i goleddu gobaith am ei adferiad. Dywododd ei fod yn foddlon i ewyllys Duw. Yn gweled cyfnewidiad er gwell wedi cymryd lle, trodd ei dad ei wyneb tuag adref; ond yn mhen saith awr pellebrwyd ar ei ôl fod Rowland wedi croesi yr afon.
Dychwelodd yno at y teulu trist mewn pryd i hebrwng ei fab i'r bedd. Felly, machludodd ei haul megys ar ganolddydd ei fywyd. Gobeithio ei fod wedi dewis y rhan dda. Mae fy ngbydymdeimlad llwyraf a'i berthynasau trallodus.