MR. WILLIAM R. WILLIAMS. RACINE, WISCONSIN.
Mai 23ain, 1886, yn Racine, Wisconsin, William R. Williams, yn 49 mlwydd oed. Dyoddefodd gystudd poenus am y pedair blynedd diweddaf oddiwrth cancer yn ei gylla.Mab ydoedd i John Williams, Rhos, Llanegryn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon 33 mlynedd yn ôl. Treuliodd y blynyddoedd hyn yn Oneida County, New York, a Racine, Wisconsin.
Mae pedwar o blant bychain wedi eu gadael yn amddifaid o dad a mam. Noddir tri o honynt yn yr Orphan Asylum, yr hwn sefydliad sydd wedi bod yn gartrefle cysurus i lawer o blant amddifaid yn Swydd Racine. Mae yr ieuengaf yn aros gyda'i modryb Mrs. Robert Jones, Villa Street, a dan gronglwyd y teulu caredig hwn y bu farw yr ymadawedig, ac y cafodd bob ymgeledd angenrheidiol yn ystod misoedd ei gystudd.
Mawr hoffid yr ymadawedig gan ei holl gydnabyd. Gwasanaethwyd yn ei gladdedigaeth gan y Parch. J. P. Williams.