MR. WILLIAM T. WILLIAMS. WATERTOWN, NEW YORK.
Rhagfyr 11eg, 1886, ger Watertown, New York, William T. Williams, yn 78 mlwydd mlwydd oed.Arosai gyda'i ferch hynaf, yr hon a'i hymgeleddodd yn rhagorol trwy ei gystudd maith.
Claddwyd ef yn Watertown ar y 14eg pryd y gweinyddwyd gan y gweinidog Presbyteraidd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E O. Evans, Remsen, New York.
Ganwyd Mr. Williams yn Dyffryn Nodol, ger y Bala, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yno y priododd gyda Mary Lewis, o'r un sir gyda yr hon y bu byw 49 mlynedd.
Claddwyd hi flwyddyn a phedwar diwrnod ar ddeg o'i flaen ef. Ganwyd iddynt chwech o blant, pedair o ferched a dau fab.
Ymfudodd Mr. Williams i'r wlad hon yn 1856, ac ymsefydlodd am y deg mlynedd cyntaf yn Collinsville, nes y symudodd i Jefferson County.
Ymunodd gyda chrefydd pan yn ieuanc, a bu yn ffyddlon gyda yr achos pan oedd ef gyda y Cymry yn Collinsville, a pharhaodd yr un wedi ymuno a'r Presbyteriaid tra y cafodd iechyd. Parhaodd ei obaith yn Nghrist hyd y diwedd.