MRS. MARGARET DAVIES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Chwefror 17, 1887, yn Minneapolis, Minnesota, Mrs. Margaret Davies, anwyl briod Mr. Richard R. Davies, yn 44 mlwydd, 10 mis a 5 niwrnod oed, ar ól wythnos o gystudd trwm o'r pleuro-pneumonia.

Merch ydoedd i David a Laura Evans, Cambria, Wisconsin. Symudasant i'r wlad hon o ardal Bethesda, Sir Garnarfon, Gogledd Cymru, ac ymsefydlasant yn ardal Portage Prairie, Wisconsin, pan nad oedd gwrthrych y sylwadau hyn ond 7 mlwydd oed. Yn lled leuanc ymbriododd á Mr. Davis, o ardal Pine River, Wisconsin. Bu iddynt ddeg o blant, ond nid oes ond tri yn awr yn fyw, set Laura, John a David, i gydalaru a'u tad ar ól mam dyner a gofalus, a phriod holl a darbodus.

Yr Arglwydd fyddo yn dda wrthynt yn eu profedigaeth chwerw. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Isaac Newton Roberts, bugail yr eglwys Gymreig, o'r hon yr oedd Mrs. Davies yn aelod dichlynaidd.

Ymgynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei gweddillion i orphwys yn Lakewood Cemetery. Huned mewn hedd.

Y Drych ~ Mawrth 24ain 1887.