MR. HUGH OWEN EDWARDS. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Ionawr 15, 1887, yn Milwaukee, Wisconsin, Hugh Owen Edwards, ieu., yn 14 mlwydd, 9 mis a 25 diwrnod oed. Ganwyd ef yn Bethel, Llauddeiniolen, Sir Garnarfon, Gogledd Cymru, Mawrth 20fed, 1872. Mab ydoedd i Hugh a Margaret Edwards.Claddwyd ei fam yn Granville, New York, pan oedd ef ond dwy flwydd a haner oed; yna aeth ei dad ag ef a'r plant eraill yn ôl i'r Hen Wlad, lle y priododd y tad gyda Catherine Owen, yr hon fu yn fam dirion a gofalus i'r plant, yn enwedig i Hugh "bach." Yr oedd rhwymau serch yn gryfion iawn rhwng Hugh a'i fam, ac yr oedd yn dda iawn iddi ei fod; talai iddi ei gyflog bob mis fel yr oedd yn ei derbyn.
Dechreuodd weithio ychydig gyda dwy flynedd yn ôl i'r Western Union Telegraph Company, ac yr oedd yn un o favorites y cwmni. Ef ydoedd y blaenaf o 28 o messenger boys, a gelwid ef "No. 1." Tua phedwar mis yn ôl cafodd dderchafiad a chodiad yn ei gyflog, a phan oedd ei gorff yn y tŷ daeth llythyr i hysbysu fod lle uwch yn barod iddo, a chodiad o $6 yn ei gyflog. Yr oedd yn fachaen adnabyddus iawn yn y ddinas, ac yn barchus iawn gan Gymry a Saeson. Dangosodd y messenger boys eu parch iddo trwy roddi clustog o flodau hardd ar gauadlen ei arch, ac ar y glustog y ddwy lythyren "H. E." a'r gair "Rest."
Dangosodd ei gyfoedion o Ysgol Sabbothol y T. C. eu parch iddo trwy roddi wreath o flodau hardd o amgylch ei gorff yn ei arch, a phlant ysgol Sul y Cynulleidfaolwyr trwy roddi 14 o rosynau gwynion wedi eu clymu yn dlws gyda rhuban gwyn ar gauadled ei arch.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Gynulleldfaol, trwy ddeheulaw cymdeithas, y Sabboth cyntaf o Awst diweddaf, a rhodiodd yn deilwng o'i broffes tra y bu fyw. Ei dystiolaeth ar ei wely angeu oedd ei fod wedi credu yn Iesu Grist, ac wedi ei dderbyn yn Waredwr iddo. Ni bu yn dyoddef poenau mawr ond am un diwrnod a noswaith. Ei glefyd oedd inflammation of the bowels.
Cafodd gladdedigaeth barchus dydd Mawrth, Ionawr 18fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Edward Joseph (T. C.) a Mr. Judson Tilsworth a'r ysgrifenydd.
D. ELLIS EVANS.