MR. ROBERT W. ELLIS. 847 MARSHALL STREET, MILWAUKEE, WISCONSIN.

Mawrth 2ail, 1887, yn ei breswylfod, 847 Marshall Street, Milwaukee, Wisconsin, yn 40 mlwydd oed, Robert W. Ellis.

Prydnawn Sabboth, y 27ain cyfisol, yr oedd Mr. Ellis yn y capel, yn mwynhau ei iechyd arferol; ond yn uniongyrchol ar ôl swper y nawn hwnw tarawyd ef yn glaf iawn; eithr ni pharhaodd ei gystudd ond am fyr amser, canys y nos Fercher dylynol ehedodd ei ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef. Yr oedd ei anwyl briod, ei frawd, ei gefnder, ei dad-yn-nghyfraith, a llu o gyfeillion yn amgylchu ei wely yn ystod ei oriau diweddaf; ac er ei fod wedi colli pob ymwybyddiaeth amryw oriau cyn marw, yr oedd cyn hyny wedi gallu dweyd yn groyw ei fod yn teimlo y breichiau tragywyddol o tano.

Er y dywedai yr hoffai gael byw, eto nid oedd yn ofni, a bu farw yn dawel mewn llwyr ymorphwysiad ar Iawn Galfaria.

Mab ydoedd Mr. Ellis i William a Hannah Ellis, Ty'r Clwb, Beddgelert, Gogledd Cymru0. Bu farw ei dad cyn iddo ef ddyfod trosodd i'r wlad hon yn 1870. Preswylia ei fam yn bresenol yn Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru.

Ar Milwaukee yr oedd ei olwg ef pan yn cychwyn o Gymru, canys yma yr oedd cyfeillon ei faboed, ac yma y sefydlodd i lawr ac y treuliodd y gweddill o'i oes. Wedi bod yn y ddinas ychydig amser llwyddodd i gael lle fel clerc gyda chwmni rheilffordd y Chicago, Milwaukee a St. Paul, a bu yn eu gwasanaeth am yn agos i 16 mlynedd, cyfran helaeth o'r cyfryw mewn lle da yn y Freight Claim Deparment, a meddyliai ei feistr yn uchel ohono. Yr oedd yn ddyn ieuanc a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai, yn Gristlon cywir, ac yn ddefnyddiol mewn gwahanol gylchoedd.

Efe ydoedd arolygwr ein ysgol Sabbothol y flwyddyn ddiweddaf a'r bresenol; yr ydoedd yn aelod gweithgar o bwyllgor ein cyfarfodydd llenyddol, ac yn ddiweddar yr oedd wedi dechreu gafael o ddifrif yn nyledswyddau cyhoeddus crefydd. Yr oedd hefyd yn gerddor gwych, ac wedi bod yn ddefnyddiol iawn gyda cherddoriaeth er pan yn y ddinas. Meddai lais clir a swynol, a mynych y bu yn canu rhai o ganenon hen wlad ei enedigaeth yn ein heisteddfodau a'n cyfarfodydd llenyddol gyda hwyl neillduol.

Cofia. ein cenedl ar y glanau ac ardaloedd eraill yn y Dalaeth am y gwleddoedd gawsant fwy nag unwaith pan yn gwrando arno yn datganu rhal o'i hoff ganeuon. Ond erbyn hyn y gan a gollwyd; ei lais ni chlywir mwy; ei le sydd yn wag yn mysg y cor; yn arolygu yr ysgol nis ceir; yn y swyddfa ei ddesc a feddianir gan arall; yr aelwyd sydd yn wag; priod serchus ei fynwes, dau o blant ieuainc, brawd, a pherthynasau eraill, yn nghyd a llu o gyfeillion yn y wlad hon, mam oedranus, chwiorydd, yn nghyd a llawer o hen gyfeillion boreu oes yn Nghymru, sydd oll mewn galar am yr hwn oedd anwyl ganddynt.

Treuliodd ei oes gydmarol fer mewn bywyd dilychwin a phrydferth, a chwith fydd genym weled ei le yn wag yn ein mysg fel eglwys, fel ysgol Sabbothol, ac fel cenedl yn y ddinas.

Dydd Gwener, y 4ydd, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o'n brawd i dŷ ei hir gartref yn mynwent Bethesda, ardal Oshkosh, Daeth cynulleidfa luosog o'i gydgenedl a chenedloedd eraill yn nghyd i gapel y T. C. ddydd yr angladd, pryd y gwasanaethwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. Joseph Roberts, Racine, a'r Parch. Mr. Killey(?); un o weinidogion Seasnig y ddinas. Prydnawn y dydd cauwyd y swyddfa lle y gweithiai, ac yr oedd ei holl ddiweddar gydweithwyr yn yr angladd. Gorchuddid cauad yr arch gan flodau-glymau, wedi eu rhoddi gau aelodau yr eglwys a'r ysgol Sabbothol, gan ei gydweithwyr a phersonau unigol, fel arwydd o'u parch o'r ymadawedig. Ar ôl y gwasanaeth awd i safle rheilffordd y C M. a St P., lle yr oedd special car wedi ei roddi gan y cwmni i gludo y corff i Oshkosk. Aeth tyrfa allan i'r wlad i fod yn bresenol yn y claddedigaeth yno boreu dranoeth. Gwasanaethwyd yn Bethesda gan y Parch. J. R. Jones (Hendref) ac eraill.

Dymuna Mrs. Ellis, a'i frawd Bennett W. Ellis, ddiolch yn gynes i'w cyfeillion am ddangos y fath garedigrwydd tuag atynt yn awr ddu profedigaeth. Gallwn sicrhau Mrs. Ellis a Mr. Ellis, fod cydymdeimlad cyffredinol a hwy yn mysg Cymry y Ddinas yn eu profedigaeth lem o golli priod mor sydyn a thad tyner a gofalus, a brawd siriol a charedig.

Y Drych ~ Mawrth 31ain 1887.