MRS. ANN EVANS. CARR'S PATCH, SCRANTON, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 24ain, 1887, y chwaer Ann Evans, anwyl briod Mr. Thomas E. Evans, Carr's Patch, Scranton, Pennsylvania, ar ôl ond tri diwrnod o gystudd dan y dolur rhydd, ac er cael pob gofal meddygol.

Gadawodd briod a phump o blant i alaru ar ei hol, un o'r rhai sydd yn Nghymru. Prydnawn Mawrth, Gorphenaf 26ain, hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent y Cymry yn Hyde Park, gan dyrfa anarferol o fawr - un o'r angladdau mwyaf a welais fawr un amser, a phawb yn cydymdelmio i'r byw a'r teulu trallodedig.

Gwasanaethwyd yn y tŷ cyn cychwyn ac yn nghapel Bellevue gan y Parch. John T. Morris, y gweindog, yr hwn wnaeth rai sylwadau tarawiedig dros ben, gan roddi tystiolaeth fod y chwaer Ann Evans wedi dewis y rhan dda yn ei bywyd. Darllenwyd rhan o'r ysgrythyr a gweddiwyd gan y Parch. D. P. Jones, Tabernacl. Wrth y bedd gwasanaethwyd gan John T. Morris a R. F. Jones, Hyde Park.

Merch ydoedd Mrs. Evans i Evan a Catherine Jones, Tanymaes, plwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn yr hwn le y mae ei merch yn aros gyda'i nain, ac ewyrth o frawd ei mam. Y mae iddi ddau frawd yn Owmarthen, Gogledd Cymru ac un chwaer yn y wlad hon.

Yr Arglwydd fyddo yn meddalhau y newydd galarus i'w merch fach a'r hen wralg ei mam yn yr Hen Wlad.

Y bearers oeddynt Lewis T. Jones, John J. Hughes, Edward Roberts a William G. Williams. Duw gadwo y teulu trallodedig.
SARNFAB.

Y Drych ~ Awst 25ain 1887.