MR. JOHN L. EVANS. WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.
Mehefin 15fed, 1887, yn Wilkesbarre, Pennsylvania, John L. Evans, yn 41 mlwydd oed, wedi blwyddyn o gystudd blin, gan adael gweddw ac wyth o blant ieuainc i alaru ar ei ôl.Ystyrid John L. Evans yn ddyn gonest, gweithiwr da, cymydog tawel, a darbodwr ymdrechgar dros ei deulu. Genedigol ydoedd o Drefriw, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog. Trodd y gymdeithas ddyngarol y perthynai iddi allan, a chymerasant ran yn y claddedigaeth, yn nghyd a'r Parch. J. Gwrhyd Lewis. Dangoswyd arwyddion amlwg yn yr angladd, ac hefyd fisoedd cyn ei farwolaerh, fod cydymdeimlad mawr â'r teulu yn eu profedigaethau gan eu ceraint a'u cydnabod, ac yn wir gan luaws na wyddem ddim am danynt cyn y cyfryw amgylchiadau; a bydd hyny yn sicr o fod yn falm i'w doluriau, ac yn foddlon i bereiddio eu cwpaneidiau chwerw.
Teimla y weddw yn wir ddiolchgar i bawb fu mor garedig a'i chynorthwyo hi, mewn gair neu weithred, yn ei phrofedigaethau; a hyderwn y bydd iddi bara i gydnabod "Tad yr holl drugareddau."
REES MORGAN.