MR. EVAN R. GRIFFITH. RACINE, WISCONSIN.

Rhagfyr, 27ain, 1887, yn Racine, Wisconsin, Evan R. Griffith, yn 63 oed, yn hynod ddisymwth o Neuralgia of the Heart. Cwynai er's rhai wytnosau gan boen ar amserau yn ei fynwes, ond ni thybid fod unrhyw berygl.

Nid yn aml y cyffrowyd ein teimlad i'r fath raddau yn symudiad neb o'n cydnabod, gan ei fod yn y capel dair gwaith y Sabboth, ac yn y store y dydd blaenorol i'w farwolaeth.

Yr oedd Mr. Griffith yn enedigol o Lanfachreth ger Dolgellau, Sir Feirionydd. Dygwyd ef i fyny yu yr un gymydogaeth a'r anfarwol Ieuan Gwynedd, a bu y ddau yn oyfranogi o'r un manteision addysg pan yn blant. Symudodd i Liverpool, a thra yno bu yn aelod o eglwys y diweddar Dr. William Rees, ac nid oedd neb a edmygai dalentau amrywiol y gŵr enwog hwnw yn fwy nag efe. Daeth i'r America yn 1851.

Treuliodd y pum' mlynedd cyntaf yn Utica, New York, ac yno yr aeth i'r ystad briodasol.

Symudodd i Racine yn y flwyddyn 1856, ac yno y trigianodd y 32 mlynedd diweddaf o'i fywyd. Bu am y tymor hwn yn aelod ffyddlawn a defnyddiol o'r eglwys Gynulleidfaol, a tbeimlir ooJled nid byohan ar ei ôl. Dygai fawr sel dros ei enwad, ac yr oedd yn deall egwyddorion gwahaniaethol Cynulleidfaoliaeth yn well na'r cyffredin. Yr oedd yn Gymreigydd rhagorol, ac yn dra hoff o farddoniaeth dda. Pe ymroddasai yn ieuainc gallasai yn ddiau ragori fel bardd. Yr oedd yn un o'r rhai blaenaf yn sefydliad Cymdeithas Dewi Sant yn y ddinas, a gweithredei fel ysgrifenydd medrus y Gymdeithas hono.

Perthynai hefyd i'r Masons, a throdd nifer luosog o'r Gymdeithss hono allan ddydd y claddedigaeth. Chwith genym ei golli mor annysgwyliadwy, ond ni obeithiwn allu dweyd am dano "Sudden death, sudden glory."

Gadawodd briod dyner a phump o blant, ac amlygir y cydymdeimlad dwysaf a hwy yn nydd eu profedigaeth. Cymerodd y Parchn. Humphrey Parry, Joseph Roberts a J. P. Williams ran yn y gwasanaeth angladdol.

Y Drych ~ Ionawr 19eg 1888.