MR. RICHARD W. JONES, FRENCH ROAD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ar yr 31ain o Fawrth, yn French Road, swydd Oneida, ar ôl dros bedair blynedd o gystudd, Mr. Richard W. Jones, genedigol o Leyn, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudasai i'r wlad hon yn y flwyddyn 1817. Dymunai yn fawr am adferiad iechyd, ond nis cafodd.

Ebrill yr 2il, ymgynnullodd lluaws o'n cydgenedl ynghyd i dalu y gymwynas olaf i weddillion marwol eu cyfaill ymadawedig. Cludwyd y corfF i addoldŷ perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardal hon, pryd yr anerchwyd y gwyddfodolion, mewn modd hynod briodol a phwysig, gan y Parch. D. Williams, Remsen, oddiar Jer. xii. 5. Yna cludwyd ef i'r pridd i aros dadebriad y Farn.

Gadawodd wraig ac wyth o blant i alaru ar ei ôl.

Ar ôl hir ddirdynawl gystuddiau,
Llaw angau yn pwysaw yn brudd,
O'r diwedd yn ingawl fe'i 'nelodd,
Gorchfygodd, fe gariodd y dydd:
Er cymaint yr ymdrech a'r awydd
Corff ac enaid i ddala yn nghyd,
Angau yn ddihidio a'u gwahanodd,
Dibrisiodd a archodd i gyd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1847.