MR. JOHN R. GRIFFITHS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi yn y rhifyn hwn, farwolaeth ein hen gydymaith, a'n ffyddlon gyfaill ac anwyl frawd y Parch. John R. Griffith.Pâr y gorchwyl i deimladau rhyfedd ein meddianu, ac yr ydym yn methu eto a sylweddoli y ffaith ei fod wedi ein gadael. Er ein bod wedi gweled yn y papyrau hysbysiad an ei farwolaeth, ac er wedi bod yn ei angladd, yr ydym rywfodd yn methu credu, ac y mae i ni hyd yma yn fwy fel breuddwyd difrifol na dim arall. Ac wrth feddwl am ysgrifenu ychydig o grybwyllion am dano, y mae ein meddyliau yn derfysglyd, a'n teimladau yn ein gorchfygu.
Bu farw am naw o'r gloch boreu Sabboth , Gorphenaf 17eg, yn y ddegfed flwydd a thri ugain o'i oedran ar ôl cystudd o lawer o fisoedd. Cafodd ddysgyniad graddol a chydmarol esmwyth i'r glyn fel y deallwn, ac er ei fod yn ymwybodol ei fod yn myned, yr oedd ei feddwl yn dawel, a'i ymddiried yn ddisigl yn yr Arglwydd ei Dduw.
Mab ydoedd Mr. Griffiths i Robert ac Eleanor Griffiths, Bryn Marchog, plwyf Llanor , sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817, a chafodd ei fagu yn ofalus mewn teulu crefyddol, a derbyniodd argraffiadau da a dyfnion ar ei feddwl, pan yn blentyn ieuanc iawn, na ddileuwyd tra y bu efe byw. Dywedir y medrai ddarllen pan nad oedd ond pedair blwydd oed. O dan weinidogaeth ac addysgiaeth y M. C. y bu yn mlynyddoedd boreuol ei fywyd, a dygwyd ef i fyny yn nghyfeillach yr eglwys.
Yn 1845, ymfudodd i'r wlad hon, ac ymsefydlodd yn Whitesboro, New York. A'r pryd hwnw ymunodd â'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Utica , o dan weinidogaeth y diweddar Barch. James Griffiths, a dechreuodd bregethu cyn hir ar ôl hyny. Bu am beth amser yn derbyn addysg yn yr ysgol yn Whitesboro, yr hon oedd y pryd hwnw yn flodeuog a llwyddianus.
Yn 1850, ymunodd mewn priodas â Miss Gwen Ellis, yr hon a fu yn wraig dda iddo, ac sydd yn aros i alaru ei cholled ar ei ôl. Bydded i'r Arglwydd fod yn gwmni ac yn nodded iddi hyd derfyn ei hoes.
Bu iddynt un plentyn, John Bunyan, yr hwn oedd yn fachgenyn bychan mwy addawol na'r cyffredin, ond bu farw Mehefin 23ain, 1854, yn dair blwydd a phedwar mis oed. Magasant hefyd frawd a chwaer, plant i chwaer Mrs. Griffiths, yr hon fuasai farw - Griffith Gordon, yr hwn a fu farw yn mlodau ei ddyddiau, a Ruth, priod Mr. Charles Evans yn awr, sydd yn byw ar eu tyddyn, a Mr. a Mrs. Griffiths oeddynt yn byw mewn lle bychan gerllaw.
Ordeiniwyd y brawd Griffiths yn gyflawn weinidog yn Bethania, Marcy, Awst 18fed, 1854. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Parchn. David Hughes, Evan Griffith, Dr. Everett, Morris Roberts, a William D. Williams, o'r rhai nid oes ond yr olaf yn unig yn fyw yn awr. Parhaodd oes weinidogaethol y brawd Griffiths yn Bethania am bedair blynedd ar ddeg, a bu yn llafurio yno gyda chryn radd o lwyddiant, er nad oedd y gymydogaeth ond bechan, ac nas gallai ddysgwyl ond ychydig o gydnabyddiaeth arianol am ei lafur. Bu er hyny yn ddiwyd a diflino, gan weithio yn galed a'i ddwylaw fel y gallai bregethu yr efengyl i eraill yn rhad.
Yna symudodd i Floyd i gymeryd gofal yr eglwys yno; a dangosodd yno hefyd yr un ymroad a diwydrwydd, a gofal am yr achos, ac a'i hynodai yn flaenorol. Ac heblaw gofalu am yr eglwys, llafuriai yn galed yno hefyd ar ei dyddyn a brydasai yn agos i'r capel, er gallu cynal ei hun a'i deulu er cysur iddynt eu hunain ac anrhydedd i'r efengyl.
Heblaw gofalu am eglwys Floyd, dangosodd ffyddlondeb mawr mewn cynorthwyo lleoedd gweiniaid oddiamgylch nad allent gynal gweinidogaeth sefydlog a chyson, gan fyned drwy bob tywydd i bregethu i gymydogaethau cyfagos a phell.
Bu yn Floyd am oddeutu 19 mlynedd, gan dreulio felly 33 mlynedd yn weinidog ordeiniedig yn swydd Oneida.
Bu yn aelod ffyddlon iawn o'r Undeb Cynulleidfaol Cymreig yn y dalaeth o'i ddyfodiad cyntaf yma. Cawn ei hanes yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gymanfa yn 1847, ac o hyny hyd ei ddiwedd bu yn gyson a difwlch yn y cyfarfodydd Chwarterol a Blynyddol yn Oneida; a phe cawsai fyw i fwynhau y gymanfa y flwyddyn hon, buasai wedi cael ei ddeugeinfed gymanfa flynyddol yma.
Etholwyd ef yn ei dro yn llywydd, a bu yn ysgrifenydd yr undeb am flynyddoedd lawer, gan gyflawni ei waith yn gryno a phrydlon, a hynod foddhaol bob amser, a hyny hefyd yn gwbl ddi-dâl.
Fel Pregethwr, nid ymgyrhaeddodd at y mawreddog na'r ymddangosiadol. Yn hytrach pregethai yn syml ac ymarferol, gan wasgu ei genadwri yn ddifrifol at gydwybodau ei wrandawyr yn well.
Yr oedd yn bleidiwr selog yr Ysgol Sabbothol, ac yn gyfaill didwyll y plant , a'r bobl ieuainc. Pleidiau bob symudiad a farnai yn tueddu at eu haddysgiant a'u gwellhad.
Yr oedd hefyd yn noddwr ffyddlon i ddynion ieuainc yn parotoi i'r weinidogaeth, a chofia llawer o'r cyfryw yn hir am ei garedigrwydd fel un yn caru nid ar air ac ar dafod yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd.
Yr oedd yn bleidiwr ffyddlon i bob achos o ddiwygiad moesol a chrefyddol yn gystal a chymdeithasol a gwladwriaethol.
Pryd bynag yr argyhoeddid ef fod achos yn dda, deuai allan yn bleidiwr iddo heb ofni dim am y canlyniadau.
Yr oedd yn wrthwynebwr penderfynol i gaethwasiaeth, pan yr oedd yn costio rhywbeth i fod felly.
Yr oedd yr un mor ddiamodol wrthwynebol i yfed y diodydd meddwol, ac hefyd i'r fasnach ynddynt.
Ni chlywyd y brawd Griffiths erioed yn defnyddio esgusodion, nac yn codi gwrthddodleuon yn erbyn pleidio achos da, pa mor anmhoblogaidd bynag y gallai fod gyda'r werin. Ni chlywyd ef yn pledio, "na ddaeth yr amser to," pan roddid cyfleusdra i wrthwynebu drwg. Ac nid arosai yn llwſr mewn dystawrwydd fel rhai, hyd nes y deuai achos yn boblogaidd cyn dyfod allan yn bleidiwr iddo. Yr oedd ef yn un y gellid cyfrif arno bob amser i fod ar yr ochr iawn i bob cwestiwn o ddiwygiad. Ac yn ei farwolaeth cafwyd colled fawr yn yr holl gylcboedd yr arferai droi ynddynt.
Addefa pawb, gan nad pa gymaint y gallent wahaniaethu mewn perthynas i lawer o bethau ynddo, ei fod yn arbenig yn meddu yr hyn yn neillduol a enilla gymeradwyaeth y Barnwr mawr yn y dydd diweddaf - ffyddlondeb. Beth bynag arall a ddywedir, rhaid i bawb ai hadwaenai addef, ein bod yn marwolaeth y brawd hwn, wedi colli y ffyddlonaf a feddem o'r cylch. Ac nid oes amheuaeth yn meddyliau neb ai hadwaenent ef yn dda, nad yw wedi cael cymeradwyaeth y gwas ffyddlon, a chael yn helaeth fynediad i mewn i lawenydd ei Arglwydd.
Meddai ar ragoriaethau amlwg eraill nad allwn yma eu nodi a lled debygol y gwna rhyw un, neu ryw rai helaetbu arnynt yn y dyfodol.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus iawn. Er ei bod yn adeg brysur y cynhauaf daeth lluaws mawr o'i gymydogion ynghyd, a llawer o ardal oedd eraill i ddangos eu parch iddo, ac i dalu y gymwynas olaf iddo o roddi ei weddillion i orwedd yn y gwely pridd. Yr oedd y rhan fwyaf o bregethwyr yr Annibynwyr ar Methodistiaid yn y sir yn bresenol, ac yn cymeryd rhyw ran yn ngwasanaeth y claddedigaeth. Ac yr oedd gan bawb o honynt air da i'r brawd anwyl ymadawedig.
Y mae yr hen weithwyr yn y weinidogaeth a lafurient yn Oneida gyda'r Annibynwyr gan mwyaf ymaith. James Griffiths, Evan Griffiths, David Price, o Utica; Samuel Williams, Deerfield; John Edwards, Floyd; E. Jones, York Mills; L. D. Howell, Utica; Dr. Everett, Steuben; Morris Roberts, Remsen; Humphrey Humphreys, Holland Patent a Trenton; W. B. Joseph, Utica ac eraill ellid enwi. Ac yn awr y mae y brawd John R. Griffiths wedi rifo gyda hwy. Ac nid oes ond ychydig weddill o'r hen weithwyr yn Oneida yn aros ar ól. Rhodded yr Arglwydd iddynt gael dyblu eu diwydrwydd yn y gwaith. Daw amser gorphwys yn fuan iddynt hwythau.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1887.
MR. JOHN R. GRIFFITHS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
In the name of God, Amen.I John R. Griffith of the Town of Floyd in the County of Oneida and State of New York, being in good bodily health and of sound and disposing mind and memory calling to mind the frailty and uncertainty of human life and being desirous of settling my worldly affairs and directing how the estates with which it has pleased God to bless me, shall be disposed of after my decease while I have strength and capacity so to do, do make and publish this my last Will and Testament.
First : I commend my immortal being to him who gave it and my body to the earth to be buried with little expense or ostentations by my Executrix hereinafter named.
Second : I hereby constitute and appoint my wife Gwen E. Griffith to be sole Executrix of this my last Will.
Third : After the payment of my debts (if any) and funeral expenses I give to Mrs. Ruth L. Evans, the wife of Charles H. Evans of the town of Floyd, New York' and to her Children Flora, Edwin and Erwin the sum of eight hundred dollars equally divided between them to be paid at the pleasure of the Executrix.
Fourth : I authorize my dear wife to give a part of my library to young Ministers of the Gospel and the other part to the boys of Charles H. Evans, Floyd, New York.
Fifth : I devise to my said Executrix all the rest of my personal and real estate and I advice her to give in her Will and Testament one hundred dollars to the Home Missionary Society West and one hundred dollars to the American Missionary Society New York.
In witness whereof I have hereunto set my hand and seal the 26th day of March in the year of our Lord one thousand eight hundred and eighty seven.
Signed John R. Griffith.
The above instrument of two sheets was at the date thereof declared to us by the testator John R. Griffith to be his last Will and Testament and he then acknowledged to each of us that he had subscribed the same and we at his request sign our names hereto as attesting witnesses.
William W Jones town of Floyd.
Charles H. Evans town of Floyd.