MRS. ELLEN HUGHES. HYDE PARK, PENNSYLVANIA.
Ionawr 22, 1887, yn Hyde Park, Pennsylvania, yn 26 mlwydd a 6 mis oed, bu farw Ellen Hughes, anwyl briod John J. Hughes, 146 Lincoln Avenue, Hyde Park.Ei hafiechyd ydoedd inflammation. Ni pharhaodd ei chystudd ond byr iawn - dim ond naw diwrnod.
Genedigol ydoedd yr ymadawedig o Chwilog, Gogledd Cymru, ond o Pwllheli yr ymfudodd i'r wlad hon, yn mis Mai, 1885, ac ymsefydlodd yn y lle hwn.
Merch ydoedd i John ac Ellen Jones - John Jones, y melinydd, fel yr adnabyddir ei thad yn yr Hen Wlad.
Gwrthddrych y nodiadau hyn oedd yr ieuengaf o bedwar o blant. Mae dau frawd a chwaer iddi yn Nghymru - ei chwaer yn byw yn Llanllyon, a'i dau frawd yn Llanaelhaiarn. Mae ei rhieni yn byw yn Abererch-road, Pwllheli, wedi eu gadael ar ôl i alaru. Ond hyn sydd yn gysur iddynt hwy a phawb o honom, nad oeddem yn ei chladdu fel rhai heb obaith.
Dechreuodd ei bywyd priodasol dan amgylchiadau tra ffafriol o flynyddau hirion a dedwydd; ond buan y daeth afiechyd, ac or yr oll a allasai priod anwyl, meddyg medrus, a chymydogion caredig, wneyd iddi, ymadael wnaeth ein chwaer. Dyoddefodd y cwbl yn dawel, ac ymostyngoi i ewyllys yr Arglwydd. Canodd lawer ar y penill hwnw,
"Pa beth a wnaf fi yma'n byw,
Yn mhell, yn mhell oddiwrth fy Nuw?"
Ac un arall hefyd :
"Pererin'wyf i'r Ganaan fry,
I gynes gol fy Iesu cu,
Lle caf drag'wyddol nyth,"
Fe gafodd ei hunig blentyn ei gladdu chwe' mis o'i blaen hi. Yr oedd yn aelod o eglwys Ebenezer (M. C), Hyde Park, Pennsylvania. Yr oedd y chwaer Hughes wedi ei magu gyda thad a mam crefyddol. Cafodd ei hyfforddi yn mhen y ffordd.
"Cael bod yn foreu dan yr iau
Swydd ganmil gwell naphleser gau,"
Felly yr oedd y chwaer anwyl yma wedi dwyn yr iau o'i mebyd. Yn y capel yr oedd ei hoffus le, Credai yn ddiysgog yr ymadroddion hyny, mai "Gwell cadw drws yn nhy Dduw na thrigo yn mhebyll annuwioldeb." Ond cafodd ei symud o'r tŷ o glai i'r wlad hono yr oedd yn son cymaint am dani.
Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. R. F. Jones. Daeth lluaws o gyfeillion i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Heddwch i'w llwch. Ymdawelwch, anwyl berthynasau galarus, dan holl droion dyfnion Duw. "Coffadwriaeth y cyflawn sydd fendigedig."
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1887.
MRS. ELLEN HUGHES. HYDE PARK, PENNSYLVANIA.
Ionawr 22ain, 1887, yn 26 mlwydd, 6 mis a 23 diwrnod oed, Ellen, anwyl briod John J. Hughes, Hyde Park, Pennsylvania. Ganwyd hi yn Chwilog, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Cychwynodd i'r wlad hon Mai 12fed, 1885, o Pwllheli, gan lanio yn New York ar y 24 ain, a chyraedd Hyde Park, boreu Llun, y 26ain.
Y noson hono unwyd hi mewn glan briodas â Mr. Hughes yn nhy y Parch. R. F. Jones; a threuliodd y gweddill o'i hoes yn y dref. Yr oedd yn aelod gyda'r T. C., ac yn ffyddlon yn ysgol Sabbothol. Yr adnod ddiweddaf a ddaeth dros ei gwefusau oedd, "Am hyny byddwch chwithau barod." Cafodd gystudd trwm, ac er pob gofal gan Dr. Jones a'i pherthynasau a'i chymydogion angeu a drechodd, a bu raid iddi adael priod tyner i alaru ar ei hol. Cynhaliodd y T. C. gwrdd gweddi yn ei hen gartref nos Sabboth, y 23ain; hefyd rhoddodd y Parch. Jones, gyngorion buddiol i bawb oedd yno. Llun 24ain, gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. Mr. Jones. Cariwyd hi allan o'r tŷ, yn nghyd a'i dodi yn ei gwely pridd gan William B. Powell, Thomas Davies, Thomas J. Hughes. Thomas Evans, H. J. Hughes a William G. Williams.
W. G. WILLIAMS (Sarn Fab).