MR. HUGH JONES HUGHES, SCRANTON, PENNSYLVANIA.

Mab John a Catherine Hughes.

Ganwyd yn Trigwm Bach, plwyf Meillteyrn ym mis Mehefin 1860 symydodd y teulu wedyn i Ty'r Felin Wynt yn Brynmawr ac yna i Murpoeth ym mhlwyf Bryncroes.

Ym mis Ebrill 1882 ymfudodd Hugh gyda'i frawd John (1858-1916) i'r America, i ardal y pyllau glo yn Scranton, Pensylvania.

Roedd Hugh yn byw ac yn gweithio fel saer cerrig yn Hyde Park, Scranton, Pensylvannia. Yno priododd gyda Catherine Hughes o Laniestyn. Ganwyd merch iddynt, Margaret Ann yn 1886 ond fe fu Hugh farw yn 1887 yn 27 mlwydd oed ac mae wedi cael ei gladdu ym mynwent Washburn Street yn Scranton, Pennsylvania.

Daeth Catherine a'i merch fach yn ôl i Gymru i fyw.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1857.


MR. HUGH JONES HUGHES, BEECH WOODS, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 13eg, 1887, yn 27 mlwydd oed, Hugh J. Hughes, ffarmwr, Beech Woods, gynt o Hyde Park. Pennsylvania., lle y bu yn cartrefu gan mwyaf yn y wlad hon.

Adnabyddid ef fel Hugh J. Hughes, y mason. Daeth i America yn Ebrill, 1882, a bu ôl a blaen o gwmpas Hyde Park hyd o fewn ychydig dros flwyddyn. Yn 1884 gyrodd am ei briod yma, a phriodwyd ef Mehefin 2ail, gan y Parch. William E. Morgan, Hyde Park. Bu y ddau yn aelodau ffyddlon gyda'r M. C. yn y dref tra y buont yma; ond erbyn hyn y mae efe wedi gadael ei brlod a'i ferch fach i alaru ar ei ôl mewn gwlad estronol i ofal Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon.

Daethant yma o Ogledd Cymru - Mrs. Hughes o'r Garn Fadryn, Lleyn, ac yntau o'r Mur Poeth, Bryncroes, yn yr hwn le y mae ei dad a'i fam yn preswylio yn awr. Gallwn ddweyd fod Mr. Hughes wedi dylyn esiampl ffyddlon ei dad a'i fam gyda chrefydd hyd y diwedd.

Claddwyd ef y dydd canlynol yn mynwent y lle uchod, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. R. T. Jones, Hyde Park, yr hwn oedd yn gyfaill calon iddo, ac ddim yn ei hystyrled yn falch i gymeryd y siwrnai er gwneyd y gymwynas olaf iddo.

Y mae brawd i'r ymadawedig ac ewyrth yn aros yn Hyde Park. Gallwn ddweyd fod Lewis T. Jones, yn nghyd a'i frawd John J. Hughes, wedi dangos caredigrwydd mawr i Mrs. Hughes yn y caledi mawr yr oedd ynddo ar y pryd. Duw y nefoedd a dalo yn ddauddyblyg iddynt.
SABNFAB.

Y Drych ~ Awst 25ain 1857.