MR. OWEN HUGHES. ROLLING MILL HILL, WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.

Medi 9fed, 1887, yn Rolling Mill Hill, Wllkesbarre, Pennsylvania, o'r cur gwaedlyd (flux), Owen Hughes, tad-yn-nghyfralth Mr. Robert Edwards, diacon yn eglwys y Bedyddwyr.

Daeth Mr. Hughes i'r wlad hon yn Mai, 1886, a sefydlodd gyda'i anwyl ferch, sef priod Mr. Edwards. Yr oedd yn hen ŵr cryf, hoenus a chadarn o gyfansoddlad, a bywiog ei ysbryd, ac yn iechyd i ddyn dreulio awr yn ei gwmni - hen Gymro dewr, gwyneb agored, a theimlir yn ddwys ar ei ôl gan y rhai a'i hadwaenent; ond yn enwedig gan deulu Mr. Edwards.

Chwarelwr llechi oedd efe wrth ei alwedigaeth, yn Nghwmyglo, plwyf Llanrug, Caernarfon, Gogledd Cymru, ac adwaenid ef gan ei hen gydnabod fel Owen Hughes, "Hen Walia."

Claddodd ei anwyl briod tua saith mlynedd yn ôl, ac yr oedd yn awyddus am weled ei anwyl ferch yn y wlad hon, a chafodd hyny; ond byr iawn fu ei arosiad cyn i genad y bedd ddod i alw am dano. Cafodd gystudd trwm iawn am ddeg diwrnod, ac er pob ymdrech a thynerweh meddygol a theuluol, cwympodd yn aberth i'r clefyd alaethus y flux yr hwn sydd yn ysgubo llaweroedd o'n cymydogion hoff i'w tueddau yn y dyddiau hyn.

Mwynhaodd Owen Hughes 66 mlynedd o iechyd da. Claddwyd ei ran farwol Sabboth, y lleg. Dygwyd ei gorff i gapel y Bedyddwyr, lle yr arferai wrando yn astud bob Sabboth am y 12 mis diweddaf o'i fywyd.

Daeth torf luosog o'i gydgenedl yn nghyd ag eraill i dalu y gymwynas olaf i'w weddllllon. Arweiniwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y Parch John J. Morris, a phregethwyd gan yr ysgrifenydd; a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent Wilkesbarre. Gadawodd yr ymadawedlg bump o blant i alaru ar ei ôl - tair merch yn yr Hen Wlad, a mab a merch yn y wlad hon. Hyderwn y cant oll fodd i ymdawelu i ewyllys yr hwn a lywodraetha y nefoedd a'r ddaear yn ôl cyngor ei wybodaeth ei hun; ac y cawn ninau ddysgu y wers bwysig - "Am hyny byddwch chwithau barod."
EDWARD JENKINS.

Y Drych ~ Medi 22ain 1887.