MR. HUGH JONES. 200 GREENBUSH STREET, MILWAUKEE, WISCONSIN.

Chwefror 22ain, 1887, yn mhreswylfod ei ddwy ferch, Miss Jones a Mrs. Rhodes, 200 Greenbush Street, Milwaukee, Wisconsin, ar ôl misoedd o grefudd trwm, Hugh Jones, yr hwn a adnabyddid gan ei gydgenedl o dan yr enw "Jones yr Atlantic," o herwydd iddo fod yn cadw gwsety o'r enw hwnw am flynyddau lawer yn y ddinas. Oddeutu dwy flynedd yn ôl cafodd Mr. Jones ergyd drom o'r parlys, yr hyn a amharodd ei iechyd yn fawr. Yr oedd o gyfansoddiad cadarn, ac wedi arfer mwynhau iechyd da ar hyd ei oes hyd y flwyddyn 1880, pryd y bu farw ei fab Thomas, ac mor agos ac anwyl ydoedd y cysylltiadau rhwng y ddau, fel yr hiraethodd yr hen dad gymaint ar ôl ei fab hyd nes niweidio ei iechyd, ac yr oedd y babell gadarn yn dechreu dangos arwyddion o ddadfeiliant prysur, ac ar y dydd crybwylledig hunodd yn dawel yn yr Iesu, ac efe yn 82 mlwydd oed.

Mab ydoedd Mr. Jones i Griffith ac Elizabeth Jones, Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Ganwyd ef yn 1804, ac yn 1852 daeth drosodd i'r wlad hon, ac yn uniongyrchol i Milwaukee, lle y treuliodd y gweddill o'i oes faith. Gan ei fod yn byw yn mhell oddiwrth yr addoldai Cymreig, nid oedd yn gallu mynychu moddion gras gyda'i gydgenedl; ond yr oedd yn aelod ffyddlon a defnyddiol o eglwys Fethodistaidd Esgobawl Ashbury.

Er nad oedd yn byw yn mysg y Cymry, yr oedd yn parhau i gadw i fyny iaith a nodweddion y genedl yn ystod y blynyddau y bu yn y ddinas. Pan ydoedd yn ei gyfiawn nerth, byddai bob amser yn sicr o fod yn angladdau ei gydgenedl yn y dref, pa un bynag a fyddai yn bersonol adnabyddus, a hwynt a'i peidio. Yr oedd yn Gymro pur ac ni siaradai ddim ond yr hen iaith gyda'i ddwy ferch, y rhai, er eu bod yn y wlal hon er's 35 mlynedd, ac wedi preswyllo yn mysg cenedloedd eraill yr holl amser, sydd yn parablu eu Cymraeg mor groyw a rhai o blant bryniau Cymru yn bresenol.

Bu farw Mrs. Jones lawer o flynyddau o'i flaen ef. Yr oedd iddynt saith o blant pan ddaethant i America, o'r rhai y mae pump yn fyw yn awr - pedair merch ac un mab.

Yr oedd Mr. Jones yn Gristion cywir, ac yn un a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai; ac ni bu erioed dynerach tad, ac un o ysbryd mwy llednais a chalon fwy agored i wneyd a allal i bawb mewn unrhyw ffordd lle gwelai angen. Bu farw yn hollol dawel a thangnefeddus, a therfynodd ei oes faith ar y ddaear i ddechreu byw bywyd heb derfyn iddo yn y byd tu draw i'r bedd. Bu ef yn dad hynod o dyner a gofalus; bu ei blant yn ofalus a charedig iawn o hono yntau yn ei hen ddyddiau. Mae iddynt eu gwobr yn y nef.

Rhoddwyd yr hyn oedd farwol o'r serchus dad i orwedd yn llwch y bedd hyd ddydd yr adgyfodiad diweddaf yn y Forest Home Cemetery.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Babbit, gweinidog eglwys St. John. Cafodd gladdedigaeth hynod o barchus a lluosog.

Y Drych ~ Mawrth 31ain 1887.