MR. RICHARD J. JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Mawrth 5ed, 1887, yn Middle Granville, New York, Richard J. Jones. Ganwyd yr ymadawedig yn 1830, felly buasai yn 57 mlwydd oed pe cawsai fyw hyd y 27ain o'r mis nesaf.Mab ydoedd i'r diweddar John ac Elinor Jones, Bryn-derwen Bach, yn ardal Bethesda, Arfon. Yr oedd yn un o ddeuddeg o blant, o'r rhai nid oes ond un yn fyw yn bresenol, sef Mrs. Jones, Middle Granville.
Ymfudodd i America yn 1851, a sefydlodd yn Lehigh, Pennsylvania. Yn 1853 symudodd i Middle Granville, lle y treuliodd y gweddill o'i oes.
Priododd á Miss Rebecca Williams, merch y diweddar Gwilym Bethesda. yr hon oedd yn chwaer i Benjamin Williams, Ysw, ac amryw eraill o frodyr sydd yn byw yma. Bu iddynt 12 o blant o'r rhai nid oes ond dau yn fyw i alaru ar ei ól Bu Mrs. Jones farw yn 1878.
Ychydig dros bedair blynedd yn ól priododd eilwaith á Miss Harriet Thomas, Fair Haven.
Dyoddefodd gystudd blin a phoenus, set cancer of the stomach, a hyny yn dawel a dirwgnach. Yr oedd o duedd dawel a thangnefeddus bob amser.
Cafodd ei fagu gyda chrefydd, ond fel llawer eraill gwerthodd ei enedigaeth fraint, a bu am lawer o flynyddoedd allan o eglwys Dduw; ond o dan weinidogaeth y diweddar Howell Powell, yn 1870, bendithiodd Duw y bregeth hynod hono, "a meibion Eli oedd feibion Belial i'w ddwyn yn ól i dy ei Dad." Gofid mawr i'w feddwl oed ei fod wedi gwneyd cyn lleied dros Iesu Grist; ond yr oedd ei ffydd yn gadarn yn ei Geidwad, hiraethai am gael ei ollwng.
Yr oedd yn gymydog hynaws a charedig, yn dad a phriod tyner a chariadus. Hefyd yr oedd yn llenor gwych, ac yn gerddor gwell na chyffredin. Cyfansoddodd lawer o anthemau, canigau a thonau, a daeth i fyny i'r safle hon trwy ymdrech a dyfalbarhad. Erbyn hyn credwn ei fod yn mhlith y dyrfa yn canu yr anthem "Iddo Ef," yr hwn a'n prynodd.
Cymerodd ei angladd le ddydd Mawrth, yr 8fed, yr hwn oedd un o'r rhai mwyaf lluosog a welwyd yma erioed. Yr oedd yn aelod o urdd y Gwir Iforiaid, y rhai oedd yn cymeryd rhan helaeth yn yr angladd. Gweinyddwyd yn y capel gan y Parchn. J. M. Hughes, Fair Haven, ac E. Roberts, Granville, i'r hwn yr oedd wedi rhoddi testyn, sef "Sicrwydd marwolaeth, a'r pwysigrwydd i barotol ar ei gyfer." Cawsom sylwadau sobr a difrifol iawn gydag arwyddion eu bod yn cael eu hanfon i'r galon, a gobeithiwn y bydd iddynt aros yn ein calonau oll nes ein dwyn i ystyried ein diwedd. Cafodd bob caredigrwydd yn ei afiechyd gan gyfeillion a pherthynasau, yn enwedig ei briod, yr hon sydd yn nyfnder trallod.
Bydded i'r Arglwydd fod yn llond ei addewid iddi, ac i'r ddau blentyn amddifaid, yw gwir ddymuniad ei cymydog.
WILLIAM J. JONES.