MR. WILLIE JONES. NORTH LA CROSSE, WISCONSIN.

Mai 28ain, 1887, yn North La Crosse, Wisconsin, yn 10 mlwydd a 5 mis oed, Willie, plentyn hynaf, ac unig fab John O. Jones a'i briod.

Cyfarfu y bachgen bychan hwn a'i ddiwedd drwy foddi yn yr Afon Ddu, lle yr oedd ef a rhai o'i gyfoedion wedi myned i ymdrochi. Ymddengys fod yr amgylchiad difrifol wedi cymeryd lle mewn llai nag awr o amser ar ôl i'w rleni wybod ei golli, er fod y man lle boddodd tua mllltir a haner o'i gartref. Drwy i ryw ddyn wrth bysgota weled ei ddillad ar lan yr afon, y gwnawd y ffaith yn hysbys i'r heddgeidwaid, a thrwyddynt hwy i'r rhieni; oblegid yr oedd ei gymdeithion wedi ffoi, ac yn gwadu ar y cyntaf yr hyn a wyddent am yr amgylchiad.

Er i ymchwiliad dyfal a manwl gael ei wneyd am y corff, bu yn y dwfr am bedir awr ar hugain, a chafwyd ef mewn man lle yr oedd dyfroedd yr afon yn ddeuddeg troedfedd o ddyfnder.

Dydd Llun dygwyd y corff gyda'r tren i Bangor i dŷ Mrs. Owens, ac oddiyno i'r fynwent. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd. Dangoswyd cydymdeimlad dwys a gwirioneddol a'r rhieni galarus yn ninas La Crosse, ac yn Bangor, am yr hyn y maent hwythau yn teimlo yn ddlolchgar i bawb. Daeth y teulu i'r wlad hon tua phedair blynedd yn ôl, o Ebenezer. Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yno yr oedd eu hanwyl Willie wedi cael ei eni. Yr oedd yn fachgen addawol a bywiog, ac yn hynod o wrol a mentrus o'i oed, ac efallai fod hyn wedi bod yn foddlon i'w ddwyn i afael yr amgylchiad a fu yn angeu iddo. Dyma rybudd difrifoi i blant i beidio myned i ymdrochi heb ganiatad eu rhieni, ac er cael hyny dylent ofalu peidio myned i afonydd mawrion, dyfnion a pheryglus. Hoff benill Willie, yr hwn a adroddai ac a ganai bob nos ar ôl dweyd ei badar, oedd,

"Mae Iesu Grist o'n hochr ni,"

a diangodd ei enaid yn ddiogel o Afon Ddu La Crosse trwy afon ddu angeu i'r nefoedd at yr Iesu hwnw. Caffed y rhieni galarus y cymorth angenrheidiol er eu galluogi i gymodi a'r brofedigaeth lemi ac annysgwyliadwy sydd wedi eu cyfarfod.

Y Drych ~ Mehefin 9fed 1887.