MR. EVAN PARRY, FRENCH ROAD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd Evan Parry yn Efail Bach, Llangwnadl yn 1801.

Ymfudodd i America yn 1823, sefydlodd yn Steuben yn ardal Sixty ac ymhen tua deng mlynedd symydodd i ardal French Road yn Remsen.

Jane oedd enw ei wraig ac fe anwyd unarddeg o blant iddynt, bu rhai o'r plant farw o flaen eu rhieni.

Bu Evan Parry farw ar 20fed Ebrill, 1887, yn 86 mlwydd a 4mis oed.

Mae'n ddiddorol gweld mai'r cyfenw Perry sy'n cael ei ddefnyddio yn aml ar ôl i'r teulu ymfudo.

Glyn Roberts ~ Awst 2021.


MR. EVAN PERRY SEN., FRENCH ROAD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 20fed, 1887, yn French Road, New York, bu farw Mr. Evan Perry, Sen., yn 86 mlwydd a 4 mis oed.

Ymfudodd Mr. Perry i'r wlad hon yn y flwyddyn 1823, o'r Efail Bach, Lleyn, plwyf Llangwnadl, Gogledd Cymru. Ymsefydlodd ar y dechreu yn ardal Sixty, plwyf Steuben, New York; ac wedi aros yno am tua deng mlynedd, symudodd i ardal French Road, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Bu farw ei briod hoff a gofalus yn y flwyddyn 1880, ond derbyniodd yr hen frawd oedranus bob ymgeledd gan ddwy o'i ferched - Naomi, yr hon a arosai gartref, a Mrs. Thomas, yr hon pan allai a ddeuai i gynorthwyo ei chwaer.

Nid oedd nemawr un yn fwy adnabyddus yn yr ardaloedd yma na gwrthddrych yr ychydig sylwadau hyn. Yr ydoedd yn ddyn siriol a chymdeithasgar; a chan y byddai yn hoff o ymweled a'i hen gyíeillion a'i gydnabod, nid oedd, fel y mae llawer o hen bobl, yn myned i dir neillduaeth, yn anadnabyddus i'r dosbarth ieuengaf, ac yn cael eu hanghofio flynyddau cyn eu marwolaeth.

Ymunodd Mr. Perry a chrefydd yn y flwyddyn 1830. Ymddengys iddo gael ei ddwyn dan argyhoeddiad o dan weinidogaeth rhyw un a bregethai yn y Capel Isaf, Steuben. Teimlai rym y genadwri lem, a cheisiai lochesu tu cefn i un o golofnau y gallery, rhag datguddio ei deimladau dwysion; ond ofer oedd yr holl ymdrech, yr oedd y saethau yn cyrhaedd ac yn glynu yn ei galon bob tro, ac aeth adref yn hynod o ddifrifol. Yn mhen ychydig ddyddiau, daeth un hen flaenor heibio, a gofynodd a oedd ganddo ryw wrthwynebiad i Mrs. Perry fyned gydag ef i Penygraig i'r seiat ? Dywedai yntau nad oedd; ond synai, a theimlai hefyd, am nad oedd wedi gofyn iddo ef ddyfod gyda hwy. Ar ôl iddynt hwy gychwyn, penderfynodd fyned yno o'u blaenau, os medrai, ac felly torodd ar draws i gyfeiriad arall, n chyrhaeddodd yno cyn gynted a hwythau, a mawr oedd y syndod a'r llawenydd hefyd pan y gwelwyd ef gan Mrs. Perry a'r hen flaenor, a chawsant dderbyniad serchog gan yr eglwys.

Wedi iddynt symud i French Road, ymunasant a'r eglwys yno, a bu eu tŷ yn agored i dderbyn a chroesawu gweinidogion y Gair o hyny hyd adeg eu marwolaeth. Hoff bethau ymddyddanion yr hen frawd oedd pregethwyr, pregethau, gair Duw ac ordinhadau yr efengyl. Nid oedd neb yn mwynhau gweinidogaeth syml y gair yn fwy nag ef, a gallwn dystio fod ei wrandawiad siriol, a'r olwg fwynhaol fyddai arno, wedi bod yn galondid i lawer wrth geisio traethu y gwirionedd heblaw yr ysgrifenydd.

O ran ei broflad, gellid gweled ei fod er's rhai blynyddau bellach yn addfedu yn gyflym i fyd arall. Yr ydoedd wedi newid ei aelodaeth i Penygraig, a phan y deuai yno i'r seiat, deuai hefyd ag amlygrwydd ei fod yn derbyn o ymgeledd yr Ysbryd Glan, a bod a fyno y Gair dwyfol a'i enaid. Pan yn dyoddef yn ei nychdod diweddaf, ymhyfrydai yn yr Ysgrythyrau, a thystiolaethai fod yr hen gyfamod yn dal yn ddisigl o hyd.

Hyd y gwyddis, nid oes ond dau o'r hen deulu yn weddill, sef John Parry, Efail Bach, a Mrs. Townsend, Adrian, Michigan; ac o un ar ddeg o blant, y mae pump yn fyw - un mab a phedair o ferched - i alaru eu colled am dano.

Er fod yn annichonadwy myned a cherbydau ac anifeiliaid allan o herwydd meddalwch yr eira, eto daeth lluaws mawr o'i hen gydnabod ar eu traed i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth, ac i gydymdeimlo a'r teulu, a chladdwyd ef yn barchus y dydd Gwener canlynol, yn hen fynwent French Road. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan yr ysgrifenydd.

Mor chwith yw colli ein hen frodyr a chwiorydd o'n cynulleidfaoedd! Pwy leinw y bylchau? Ysbryd yr Arglwydd a ddelo at y gwaith.
E. G. WlLLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1887.