MRS. MARGARET PRICHARD. POPLAR STREET, LEADVILLE, COLORADO.

Mai 17eg, 1887, yn nhy ei mab, Owen Prichard, Poplar Street, Leadville, Colorado, yn 70 mlwydd oed, er y 18fed o fis Ebrill diweddaf, Mrs. Margaret Prlchard, gweddw y diweddar Ioan Prichard, Middle Granville, New York, ar ôl amryw fisoedd o gystudd; a chladdwyd hi yn mhen yr wythnos yn Ever Green Cemetery, yn mhresenoldeb amryw o'i phlant a'i pherthynasau i wylo uwch ei bedd.

Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol yn nghapel yr A., lle yr oedd yn aelod, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. Whisler, gweinidog y M. E. yn Leadville.

Merch oedd i Owen a Jane Jones, Aberpwll, ger Caernarfon, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn chwaer i Ellis Jones, saer, Bangor, Gogledd Cymru. Ymfudodd hi a'i theulu i Middle Granville, New York, 34 o flynyddau yn ôl, lle y collodd gydmar ei bywyd naw mlynedd yn ôl. Symudodd hi i Leadvllle, Colorado, ddwy flynedd i Chwefror diweddaf, at ei mab, Owen Prichard, a'i dwy ferch, Mrs. William Morris a Mrs. Hugh Parry. Y mae iddi fab a merch ger Silver City, New Mexico, sef Mr. John Prichard a Mrs. Thomas Corey; merch arall iddi yn byw yn Shelley Village, Massachusetts, o'r enw Mrs. Parch. James Rawlings, ac un arall yn Whitehall, New York, o'r enw Mrs. David La Crosse.

Yr oedd wedi claddu un ferch yn Nghymru a thair yn Middle Granville, yn ymyl eu tad felly gwelir ei bod wedi magu 11 o blant, a 7 o honynt eto yn fyw. Bydded iddynt oll gerdded llwybrau crefydd ar ôl eu rhieni, fel y gallent gwrdd eto mewn cartref lle na bydd neb yn marw nac yn ymadael mwy.
W. D. DAVIES.

Y Drych ~ Mehefin 16eg 1887.