MRS. JANE RICHARDS. CASSVILLE, NEW YORK.

Ionawr 12fed, 1887, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. David Davies, Cassville, New York, Jane Richards, yn 86 mlwydd ao 20 diwrnod oed, gweddw y diweddar Morris Richards, o Plainfield, New York.

Merch ydoedd i John ac Ann Jones, Hafod Fraith, Blaenau Ffestiniog. Pan yn lled ieuanc aeth at ei hewyrthr William Evans, Llenyrch Llandecwyn, a bu yno hyd nes y priododd â Morris Richards, Hendre Ceryg.

Daethant i'r wlad hon yn 1856, o Tanygrisiau, Ffestiniog, a buont byw am y ddwy flynedd gyntaf yn Salisbury, Swydd Herkimer; yna symudasant i Marcy, ac oddiyno yn mhen blwyddyn i Plainfield, lle y prynasaut dyddyn, a buont yno yn byw yn gysurus hyd farwolaeth ei phriod, yr hyn a gymerodd le yn 1876. Byddai y ddau yn telmlo yn ddiolchgar i'r Arglwydd am drefnu eu preswylfod mor ddiogel o gyraedd y peryglon y buont ynddynt yn chwareli Ffestiniog.

Ar ôl marwolaeth ei phriod gwnaeth Mrs. Richards ei chartref gyda'i merch, Mrs. Davies, Cassville, lle y cafodd bob amgeledd a allesid weinyddu iddi. Cafodd gystudd caled am ddeng wythnos.

Ymunodd â chrefydd tua 1851, a daliodd ei thir yn ddiofid i eglwys Dduw hyd ddiwedd ei hoes. Mawr oedd ei hiraeth a'i dymuniad am gael myned adref at ei Gwaredwr, yn yr hwn yr ymddiriedai.

Gadawodd ar ei hol ddau fab ac un ferch, John Richards a Robert Richards, Plainfield, a Mrs. Davies, Cassville, ac un ar bymtheg o wyrion a thri o orwyrion.

Ionawr 17eg, ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. Mr. Benedict (B.), Cassville; yna hebryngwyd ei chorff i Unadilla Forks at ochr ei phriod, pryd y gweinyddwyd yn y capel gan y Parch. O. Wynn Roberts. a Dr. R. Gwesyn Jones, Utica.

Y Drych ~ Chwefror 3ydd 1887.