CADWALADR ROBERTS. HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 5ed, 1887, yn Holland Patent, Sir Oneida, New York , bu farw Cadwaladr Roberts, yn y drydedd flwyddyn a phedwar ugain o'i oedran. Blinid ef gan glefyd y galon er ys amser maith, ac yr oedd yn wanaidd a diffygiol y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Tua mis yn flaenorol i'w farwolaeth, yn anffodus cwympodd ar y rhew, a thorodd asgwrn ei forddwyd, yr hyn a fu yn foddion i raddau i brysuro ei ymadawiad.

Ar yr 8ed cafodd gladdedigaeth anrhydeddus a chynhebrwng lluosog, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. E. G. Williams ac E. C. Evans, M. A., Remsen, a T. T. Evans, Holland Patent.

Ganwyd Cadwaladr Roberts yn mis Mai, 1804, yn Cwmtylo, plwyf Llanuwchlyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yn Cwmtylo hefyd, y preswyliai ei hynafiaid er ys rhai oesoedd. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Robert Roberts, Glanaber, diacon parchus a haelionus 0 eglwys y Methodistiaid yn Llanuwchlyn. Yr oedd hefyd yn gefnder i'r nodedig Dafydd Rolant, Llidiardau.

Priododd Gwen Roberts, Ty'n Ddol, chwaer i'r diweddar Barch. Robert Roberts, Park. Yr oedd, felly, ar fwy nag un ystyriaeth, yn Fethodist o'r Methodistiaid. Pan oedd tua 42 oed, bu farw ei hoff briod, gan adael deg o blant yn amddifad o fam dyner a gofalus.

Yn 1852, ymfudodd ef a'i blant amddifaid i'r America, ac ymsefydlodd yn ardal Brynmawr, Sir Oneida, New York. Rhagflaenodd chwech o'r plant ef i'r byd mawr ysbrydol. Y pedwar a adawyd ydynt Mrs. M. J. Meredith, Holland Patent, Robert C. Roberts, Deerfield, New York, Reynold C. Roberts a Richard P. Roberts o Dalaeth Minnesota. Bu tri yn filwyr yn adeg y gwrthryfel mawr, ac aberthodd dau eu bywydau ar allor eu gwlad.

Gwnaeth ei hun yn ddinesydd o'i wlad fabwysiedig cyn gynted ag y goddefai y gyfraith iddo, a bu yn Werinwr selog hyd derfyn ei oes. Daliai y Democratiaid yn gyfrifol (ac yn gyfiawn hefyd) am yr holl ddinystr ar fywydau a meddianau yn adeg y gwrthryfel. Yr oedd yn onest, cyfiawn, a didwyll yn ei gysylltiadau masnachol, a bu tybied fod eraiíl fel ef ei hun, yn achos o brofedigaeth a cholled iddo rai gweithiau. Gwnaeth broffes o'i ffydd yn Nghrist pan yn ieuanc, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.

Wedi dyfod i'r wlad hon, ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn y Brynmawr. Cafodd y fraint o weled yr oll o'i blant yn cael eu derbyn yn aelodau eglwysig. Ar yr adeg hon, yr oedd yr achos yn llewyrchus a blodeuog yn y Brynmawr, gyda dau o weinidogion yn aelodau o'r eglwys. Nid oedd ond un blaenor yn yr egiwys, sef y diweddar John Watkins, yr hwn oedd ddiacon o radd dda, a sylfaenydd yr achos yn y lle. Yn fuan, dewiswyd Cadwaladr Roberts yn ddiacon, a bu ef a Mr. Watkins yn cydflaenori yn frawdol a heddychol hyd ymadawiad y blaenaf i Holland Patent, yn y flwyddyn 1866. Yno y diweddodd ei oes, gan gael ei barchu gan fyd ac eglwys. Pa le bynag y byddai, yn y gweithdy, yn yr ysgol Sabbothol, neu yn y gyfeillach eglwysig, yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn Gristion cywir, a dyn Duw.

Yr oedd o natur dawel, dystaw a gostyngedig ac fel y cyfryw, nid yn aml y byddai ar uchelfanau y maes o ran ei brofiad crefyddol, ond teimlai ei hun yn hollol ddiogel yn llaw y Gwaredwr. Nid oedd yn meddu ar hyawdledd ymadrodd, ond byddai yr hyn a ddywedai yn llawn o feddwl, a phob amser yn agos at y nod; yr oedd yn gwybod yn lled gywir yr "amser i dewi, a'r amser i ddywedyd." Yr oedd ei bwyll, a'i amynedd, a'i arafwch yn eglur i bawb. Pan ddewisiwyd ef yn ddiacon, ni fu neb erioed mwy dieuog o "chwenych y blaen" nag ef. Y fath oedd ei wyleidd-dra a'i ostyngeiddrwydd, fel y teimlai ei hun yn hollol anghymwys ac annigonol i ymgymeryd a'r fath swydd oruchel a chysegredig.

Ni chafodd fanteision addysg, ond enillodd radd dda o wybodaeth Feiblaidd trwy yr ysgol Sabbothol a gweinidogaeth yr efengyl. Darllenai y Beibl gan osod allan y synwyr fel y deallai y gwrandawyr. Rhoddai bob parch i farnau dynion dysgedig ac ymchwilgar, ond hoffach ganddo fyddai hen wirioneddau cynil Llyfr y llyfrau. Cyfarfu a llawer amgylchiad chwerw yn ystod ei oes - colli priod, colli plant, ond tewi a wnai ef gan ymostwng dan alluog law Daw.

Yn ei oriau olaf, pan "yn y dyfroedd mawr a'r tonau," dywedai, fod pethau yn ymddangos yn dywyll iddo weithiau, ond fod yr Arglwydd yn gwybod beth oedd oreu er ei les; yna siriolai a dywedai yn galonog,

"Mae'r hyfryd wawr s'yn codi draw,
Yn dyweyd fod boreu braf gerllaw."

Boreu y diwrnod y bu farw, pan sylwyd wrtho mai claf iawn ydoedd, "Ie," meddai, "dysgwyl y caf fy ngollwng yn awr mewn tangnefedd." Felìy y bu; bu farw yn dawel. "Efe a aeth i dangnefedd." "Mab tangnefedd " ydoedd, a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Un o heddychol ffyddloniaid Israel, y rhai y mae eu henwau yn perarogli, a'n coffadwriaeth yn fendigedig.

Carwn ymhelaethu ar ei ragoriaethau, ond rhaid i mi ymatal. Efelychwn ei rinweddau, anghofiwn ei feiau. Gorphwysed ei ran farwol yn dawel yn mhriddellau y dyffryn, hyd nes y delo yr Adgyfodiad a'r Bywyd i'w adgyfodi y dydd diweddaf.
Galarus.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorffennaf 1887.


CADWALADR ROBERTS. HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I Cadwaladr Roberts of the Town of Trenton, County of Oneida and State of new York, being of sound mind and memory do make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament, that is to say.
First. After all my lawful debts are paid and discharged, I give devise and bequeath to my daughter Mary, wife of M. J. Meredith of the Town of trenton, County of Oneida and State of New York the sum of one thousand dollars.

Secondly. I give and bequeath to my son Robert C. Roberts of the Town of Marcy, County of Oneida and State of New York the sum of seven hundred dollars.

Thirdly. I give and bequeath to my grandson Robert Meredith of the Town of Trenton, County of Oneida and State of New York the sum of two hundred dollars.

Fourth. I give and bequeath to my grandaughter Lizzie M. Meredith of the Town of Trenton aforesaid the sum of two hundred dollars.

Fifth. I give and bequeath to my son Reynold Roberts of Lake Crystal, State of Minnesota the sum of one hundred dollars.

Sixth. I give and bequeath to my son Richard Roberts of Mankato, State of Minnesota the sum of one hundred dollars.

Seventh. I give and bequeath to my grandaughter Winnie Jane Williams of the City of Utica, New York the sum of one hundred dollars.

Eighth. I give and bequeath to my grandaughter Winnie May Roberts (daughter of Owen Roberts of Mankato, State of Minnesota) the sum of one hundred dollars.

Ninth and Lastly. I give, devise and bequeath to my son Robert C Roberts of the Town of Marcy and to my daughter Mary, wife of M. J. Meredith of the Town of Trenton, Oneida County, New York all the rest and residue of my property after paying the same the several legacies already named, to be equally divided between them for each to share and share alike and for their heirs and assigns forever.

Likewise I make, constitute and appoint my son Robert Roberts of the Town of Marcy and my daughter Mary, wife of M. J. Meredith of Trenton, Oneida County to be executor and executrix of this my last Will and Testament hereby revoking all former Wills by me made.

In witness whereof I have hereunto subscribed my name and affixed my seal the eighth day of April in the year of Our Lord one thousand eight hundred and eighty five.

Cadwaladr Roberts. The above instrument consisting of one sheet attached thereof subscribed by Cadwaladr Roberts in the presence of us and each of us, he at the time of making such subscription acknowledged that he made the same and declared the said instrument so subscribed by him to be his last Will and Testament whereupon we then and there at his request and in his presence and the presence of each other subscribed our names as witnesses thereto.

Griffith O. Jones residing at Holland Patent New York.
Jim D. Jones residing at Holland Patent New York.

New York Wills and Probate Records 1659-1999.