MRS. RUTH JONES, NEW YORK.

Ar y 12fed o Fehefin, 1847, yn y ddinas hon, Ruth Jones, priod Mr. John Jones, Heol y Ddeunawfed.

Yr oedd y drengedig yn enedigol o'r Sarnau, ger y Bala, Sir Feirionydd. Bu yn gystuddiedig am rai misoedd, ac wedi geni plentyn ar y 7fed, gwaethygodd i'r fath raddau fel y suddodd dan bwys yr ymosodiad ar ei phabell bridd.

Yr ydym yn hyderu yn o dawel fod y chwaer hon wedi cyrhaedd yr hafan ddymunol, a'i bod allan o bob gofid, yn awr yn canu 'Iddo Ef' - Tystiai ei bod yn hollol dawel yn llaw ei Thad nefol. Ymunodd â chrefydd yn blentyn ieuangc, rhwng 12 a 13 mlwydd oed, gyda chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oedd yn aelod barchus o'r un cyfundeb pan bu farw. Collodd ei mam yn foreu, ond cafodd y fraint o fod dan ofal ymgeleddwyr duwiol a ffyddlon iawn.

Mae ei thad, Mr. Robert Roberts, yn fyw, ac yn awr yn cyfaneddu heb fod yn mhell o Utica, Sir Oneida. Ymfudodd hi i'r wlad hon yn hâf y flwyddyn 1839; ac yn y ddinas yma y cartrefodd hyd derfyn ei thaith. Ar y lOfed o Ionawr, 1844, ymunodd y drengedig mewn priodas â Mr. John Jones, - yr hwn ynghyd a baban bychan, sydd yn awr wedi eu hymddifadu o'i chyfeillach a'i gofal siriol. Bu farw yn mlodau'i hoedran, heb fod ond 26ain mlwydd 4 mis a 9 diwrnod oed.

Prydnawn ddydd Llun, y 14eg, ymgasglodd tyrfa luosog o'r Cymry i dalu y parch a'r gymwynas olaf i'w gweddillion marwol; y rhai a gyd-hebryngwyd, gan orymdaith hardd i gladdfa y Bedyddwyr yn Heol Amity. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur, yn Gymraeg a Saesonaeg, yn y tŷ ac ar lan y bedd, gan ein Brawd W. Rowlands.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorffennaf 1847.